I ddathlu addasiad llwyfan Bethan Marlow o nofel arobryn Alys Conran, Pijin, mae’r cyhoeddwyr Parthian Books wedi argraffu fersiwn newydd nifer cyfyngedig o’r nofel gyda chlawr newydd. Mae’r clawr newydd sbon hwn yn cynnwys y dyluniad poster eiconig ar gyfer y ddrama ac mae ar gael i’w brynu nawr o leoliadau dewisiedig ar hyd y daith, siopau llyfrau lleol a gwefan Parthian Books.
Yn y llun eiconig mae bachgen ifanc yn sefyll gyda golygfeydd syfrdanol Chwarel Dinorwig yn gefndir. Mae fan hufen ia bach hefyd yn y llun, un o’r delweddau sy’n ail-ymddangos trwy gydol y nofel a’r ddrama lwyfan. Tynnwyd y llun gan y ffotograffydd o Gaerdydd a gogledd Cymru, Dafydd Ffoto Nant, a’r dylunydd graffeg yw’r hyfryd Kelly King Design. Ry’n ni mor ddiolchgar i’r ddau am eu gwaith!
Gwnewch rywbeth bach i’ch hun heddiw a phrynwch gopi newydd o un o nofelau mwyaf eiconig ac arobryn Cymru. Pam na brynwch chi docyn i un o berfformiadau olaf yr addasiad llwyfan ohoni hefyd?!
Newyddion + blogiau diweddaraf
-
12/03/2024 NewyddionTheatr Gen x Cymuned Dawnsfa Cymru
Ry'n ni'n falch o barhau i gydweithio gyda Chymuned Dawnsfa Cymru, gydag wythnos ymchwil a datblygu a pherfformiad sgratsh Kiki Cymraeg yn Theatr y Sherman.
-
06/03/2024 NewyddionHa/Ha: Galwad am Artistiaid
Ry'n ni a Theatr Clwyd yn chwilio am artistiaid Cymraeg doniolaf Cymru i fod yn rhan o brosiect newydd sbon