Newyddion 01/12/2022

Cyhoeddi cast llawn a thîm creadigol Pijin | Pigeon

Exterior shot. The sky is grey and there are mountains in the background, unfocused. In front and in focus there is a pink and white small model ice cream van placed on a pile of small slates. Behind it out of focus a boy is sitting down with his back to the camera.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo yn falch o gyhoeddi’r cast llawn a’r tîm creadigol ar gyfer eu taith wanwyn o Pijin | Pigeon – addasiad newydd Cymraeg ar gyfer y llwyfan gan y dramodydd Bethan Marlow, yn seiliedig ar y nofel boblogaidd Pigeon gan yr awdur Alys Conran. Bydd y ddrama, a gyflwynir mewn perthynas â Pontio, yn agor yn y ganolfan honno ym Mangor cyn teithio i theatrau ledled Cymru yn ystod Chwefror a Mawrth 2023. 

 

Bydd cast o’r radd flaenaf yn dod â chymeriadau lliwgar y nofel yn fyw. Mae’r actor Owen Alun o Gaernarfon (Rownd a Rownd, Un Nos Ola’ Leuad) yn ymddangos fel Pigeon, gydag Elin Gruffydd (Elen Benfelen / Goldilocks) fel Iola a Nia Gandhi (Jane Eyre, Maryland) fel Cher. Yn cwblhau’r cast mae dau o hoelion wyth y theatr Gymraeg, sef Lisa Jên Brown (Milky Peaks,The Insatiable, Inflatable Candylion) a Carwyn Jones (Blodeuwedd, Craith / Hidden) – a’r ddau ohonynt yn chwarae nifer o gymeriadau gwahanol. 

Image introducing cast of Pigeon. 5 headshots in squares, two men and three women. Names underneath from top to bottom read Owen Alun, Lisa Jen Brown, Nia Gandhi, Elin Gruffydd and Carwyn Jones

Mae’r Cyfarwyddwr Lee Lyford hefyd wedi tynnu at ei gilydd dîm talentog o arbenigwyr creadigol i lwyfannu’r cynhyrchiad newydd sbon hwn. Bydd Carl Davies, Cynllunydd y Set a’r Gwisgoedd, yn dod â byd Pigeon i’r llwyfan mewn ailgread eofn o dirlun gwledig gogledd Cymru, ynghyd â chapsiynau creadigol integredig gan y Cynllunydd Fideo Hayley Egan. Hefyd yn ymuno â’r tîm creadigol mae’r Cynllunydd Goleuo Ceri James a’r Cynllunydd Sain a’r Cyfansoddwr Tic Ashfield, gyda Melangell Dolma fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Ola Klos fel Cynllunydd Cynorthwyol ac Eddie Ladd fel Cyfarwyddwr Symudiad. 

 

Dywedodd Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, a fydd yn cyfarwyddo’r ddrama:

“Dw’i wrth fy modd yn gweithio gyda chast a thîm creadigol mor fendigedig ar addasiad hyfryd Bethan Marlow o’r llyfr pwysig Cymreig hwn gan Alys Conran. Mae’n fraint i weithio ar y cynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru ac i ddod â’r stori’n fyw ar lwyfan ar gyfer ein cynulleidfaoedd.”

 

Ychwanegodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
“Cyflwyno straeon anhygoel o Gymru i’n cynulleidfaoedd sydd wrth galon ein gwaith yn Theatr Gen ac mae Pijin yn un o’r straeon arbennig hynny, sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yng nghymunedau chwarel y gogledd. Mae bob amser yn bleser i weithio gyda Theatr Iolo a dwi’n edrych ‘mlaen yn fawr at weld sut mae Lee a’r cast a’r tîm creadigol talentog hwn yn dod â’r nofel arbennig hon yn fyw.”

 

Wedi’i gosod yn yr 1990au cynnar, mae Pijin | Pigeon yn stori afaelgar am dyfu i fyny, cyfeillgarwch, a phŵer geiriau. Mae Pigeon yn un o filiwn i’w ffrind gorau, Iola, ond mae’n dyheu am gael dianc o’r bywyd sy’n aros amdano wrth fynd adref bob nos, ac yn defnyddio’i ddychymyg, straeon a geiriau i oroesi. Ond beth fydd yn digwydd pan nad yw geiriau’n ddigon, a bywyd yn newid am byth?

 

Caiff Cymraeg a Saesneg eu gwau’n gelfydd i’w gilydd yn y ddrama, a bydd pob perfformiad yn cynnwys capsiynau creadigol integredig yn y ddwy iaith. Bydd perfformiadau gyda dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), disgrifiad sain dwyieithog a theithiau cyffwrdd ar gael ym Mangor a Chaerdydd. Yn ogystal, cynhelir sgyrsiau cyn-sioe ar gyfer dysgwyr Cymraeg cyn rhai perfformiadau, gyda gweithdai ar gael ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion, yn cynnwys digwyddiadau dethol gydag Alys Conran a Bethan Marlow.