Newyddion 12/06/2024

Brên. Calon. Fi: Monolog pwerus Bethan Marlow yn Eisteddfod Genedlaethol 2024

Bren Calon Fi image. A sketch of two women kissing and holding around each other. The background is white and there is a texture of crumpled paper.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn llawn cyffro i gyhoeddi eu bod yn cyflwyno Brên. Calon. Fi, monolog ddoniol a thyner gan Bethan Marlow, ar faes yr Eisteddfod eleni fel rhan o arlwy Mas ar y Maes.

Yn llawn cariad, tor-calon, a chwant lesbiaid, dyma’r perfformiadau llawn cyntaf o’r gwaith ar ôl i ddetholiad byr a gyflwynwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022 ddenu clod mawr ac ennill lle ar restr Goreuon Theatr 2022 y Guardian.

Gyda’r cyfarwyddwr Rhiannon Mair wrth y llyw, bydd yr actor Lowri Morgan yn serennu fel ‘Fi’, storïwr y fonolog sy’n mynd â’r gynulleidfa ar daith o’i bywyd carwriaethol – y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a’r tor-calon blêr. Yn cefnogi Rhiannon Mair i ddod â Brên. Calon. Fi i’r llwyfan, mae’r Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Livia Jones, Cynllunydd Goleuo, Cara Hood, a'r Cynllunydd Sain, Josh Bowles. Mae bywgraffiadau i’r holl artistiaid ar gael ar ddiwedd y datganiad.

 

Yn dyner, amrwd a doniol, dyma ddrama bersonol a gonest gan un o ddramodwyr gorau Cymru, Bethan Marlow. Dros y blynyddoedd, mae perthynas cryf wedi blaguro rhwng Bethan a Theatr Gen, gyda’r bartneriaeth yn arwain at nifer o gynyrchiadau cofiadwy, gan gynnwys Sgint, Nyrsys ac yn fwyaf ddiweddar, Pijin | Pigeon.

Wrth drafod Brên. Calon. Fi, meddai Bethan Marlow:

“Stori o brofiad un lesbian ydi hon. Ella fydd lot o lesbians yn medru uniaethu hefo hi ac ella ddim. Ella fydd y daith o ddod i nabod dy hun a caru dy hun yn un sy'n berthnasol i nifer o bobol ac ella ddim. Ella mai stori fi ydi hi ... ac ella ddim.”

Wrth baratoi at ddechrau ymarferion Brên. Calon. Fi, dywedodd Rhiannon Mair:

“Pwy na fydde eisiau gweithio ar ddarn newydd o theatr gan Bethan Marlow?! Mae Brên. Calon. Fi yn ddrama gelfydd, sy’n datgelu gwirioneddau am fywyd a pherthynas mewn modd didwyll, a dwi'n teimlo'n ffodus iawn o fod yn gyfarwyddwr arno. Gall theatr ar ei orau fod yn fforwm i edrych ar fywyd yn ei holl gymhlethdod a’i ogoniant, a fy ngobaith yw bod Brên. Calon. Fi yn gwneud hynny drwy ddod a stori cymeriad 'Fi' yn fyw. Ma ‘na fwrlwm a chyffro ymysg staff Theatr Genedlaethol a’r tîm creadigol ynglŷn â’r gwaith hwn, ac edrychaf ymlaen at fynd i’r afael â’r ddrama yn yr ystafell ymarfer.”

Mae Brên. Calon. Fi yn rhan o raglen ehangach gan Theatr Gen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ar y cyd â Theatr Clwyd, bydd y cwmni’n cyflwyno Ha/Ha, sef awr wyllt o ddramâu comedi byr yng Nghaffi Maes B. Bydd cyfle i fynychwyr yr Eisteddfod fwynhau sgwrs rhwng ein Cyfarwyddwr Artistig, Steffan Donnelly a’r eicon Siân Phillips am ei bywyd a’i gyrfa. Bydd Steffan hefyd yn sgwrsio gyda Lowri Morgan fel rhan o raglen sgyrsiau Paned o Gê a Mas ar y Maes.

Bydd Brên. Calon. Fi yn cael ei berfformio yn YMa ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024 am 4pm o ddydd Mawrth 6 Awst hyd at ddydd Gwener 9 Awst. Am fanylion rhaglen llawn, ewch i wefan Theatr Gen: theatr.cymru

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Comisiynwyd Brên. Calon. Fi yn wreiddiol gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru i'w berfformio yn Nhregaron 2022. Wedi'i ariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru.