Newyddion 24/08/2021

Anfamol - ar daith dros yr hydref

Woman is lying on a pile of baby clothes and other baby necessities like nappies, toys, baby oil and bibs. She is wearing a blue blazer with a white shirt underneath and has red lipstick on her lips.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Anfamol, drama newydd gan Rhiannon Boyle, yn teithio Cymru yn yr hydref.

Bydd y ddrama’n agor yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ddiwedd mis Medi ac yna’n teithio i saith canolfan theatr arall yn ystod mis Hydref. Ar ôl taith awyr agored Gwlad yr Asyn ym mis Awst, dyma’r ddrama gyntaf ers pandemig y Coronafeirws i deithio i theatrau dan do gan Theatr Genedlaethol Cymru.

 

Mae Anfamol yn ddrama newydd, dyner a direidus am Ani – cyfreithwraig lwyddiannus sy’n penderfynu defnyddio sperm bank er mwyn cael babi. Mae hi’n tybio mai dyma’r union beth sydd ei angen, efallai, er mwyn dod â’i theulu cymhleth yn ôl at ei gilydd. Ond pan mae’r pandemig yn taro, mae bywyd Ani yn dod i stop. Yn fam newydd sengl, mae hi’n sydyn yn gaeth i’w chartref efo babi sy’n crio’n ddi-baid. ’Tydi bod yn rhiant ddim yr hyn roedd hi’n ei ddisgwyl o gwbl.  Pam nad oedd neb wedi ei rhybuddio?

Mae Anfamol yn ddrama ar gyfer un actor yn unig, a chaiff ei chyflwyno gan Bethan Ellis Owen, sy’n adnabyddus fel y cymeriad Ffion yn Pobol y Cwm. Roedd Bethan hefyd yn aelod o gast y ddrama Nyrsys gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2018. Gyda Sara Lloyd yn cyfarwyddo, dyma’r ddrama gyntaf o waith y dramodydd Rhiannon Boyle i’w chyflwyno’n broffesiynol yn y Gymraeg. Rhiannon oedd awdur preswyl cyntaf BBC Cymru a National Theatre Wales yn 2019, a darlledwyd ei drama radio gyntaf, Safe from Harm, ar BBC Radio 4 yn gynharach eleni.

Mae’r tîm creadigol hefyd yn cynnwys Amy Jane Cook fel Cynllunydd Set a Gwisgoedd, Katy Morison fel Cynllunydd Goleuo, Tayla-Leigh Payne a Niamh O’Donnell fel Cyfansoddwyr a Chynllunwyr Sain, Deborah Light fel Cyfarwyddwr Symud a  Juliette Manon Lewis fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol. Bydd Gwawr Loader yn eilydd i Bethan Ellis Owen.

Meddai Rhiannon Boyle, awdur Anfamol:

“Fe wnes i ysgrifennu Anfamol ar ôl clywed am rywun yn defnyddio ‘sperm bank’ i gael babi, ac ro’n i’n ei hedmygu gymaint am hynny. Fe wnaeth hynny, a ’mhrofiad i fel mam newydd pan ges i fy mhlant, fy ysbrydoli i ysgrifennu’r ddrama yma – ac wrth feddwl am famau newydd yn ystod y pandemig. Anaml mae pobl yn trafod pa mor anodd yw’r dyddiau cynnar ar ôl cael babi – rydyn ni’n gyfarwydd iawn â’r lluniau perffaith ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae’r unigrwydd sy’n dod o fod adre gyda’ch babi newydd yn rhywbeth y galla i a phob mam dwi’n ’nabod uniaethu ag o; ar ben hynny, bu raid ymdopi â’r problemau ddaeth yn sgil Covid-19, a dengys astudiaethau fod mamau sy’n gweithio wedi bod dan fwy o bwysau a bod eu gyrfâu wedi’u heffeithio. Dwi’n meddwl ei bod hi’n stori oesol sydd angen ei chlywed a’i chydnabod.”

 

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:

“Mae mor braf i ni fel cwmni, o’r diwedd, gael paratoi taith genedlaethol i’n theatrau ar ôl cyfnod hynod o heriol i’r diwydiant theatr a digwyddiadau byw yn gyffredinol. Mae’n bleser gennym ni agor y cynhyrchiad hwn yn y Sherman cyn teithio i theatrau sy’n gyfarwydd iawn i ni fel cwmni. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu’n cynulleidfaoedd yn ôl i’r theatr unwaith eto ar ôl cyfnod mor hir. Braf iawn yw cael cydweithio hefyd efo Rhiannon Boyle am y tro cyntaf. Mae hon yn ddrama sydd â chymaint i’w ddweud am fod yn rhiant, am fod yn sengl, am fod yn ferch, ac am fyw drwy un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ein hanes ni fel cymdeithas. Pan ddarllenais y ddrama gyntaf, roeddwn yn fy nagrau’n gyson – un munud yn chwerthin lond bol, a’r nesaf wedi fy chwalu’n llwyr. Mae’r ddrama hon yn waith hyderus gan un o’n dramodwyr cyfoes mwyaf cyffrous.”

 

Trwy gyfrwng testun ar sgrin a llais yn y glust, bydd Sibrwd – sef ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru – ar gael i dywys y gynulleidfa trwy’r stori, pa mor rhugl bynnag ydynt yn y Gymraeg. Mae’r cwmni newydd lansio fersiwn newydd o’r ap.

Ceir perfformiadau wedi’u dehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar 30 Medi yn Theatr y Sherman, Caerdydd a 21 Hydref yn Galeri, Caernarfon.

Cyflwynir Anfamol gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman.

Dyddiadau’r Daith

Theatr y Sherman, Caerdydd

29.09.21 – 02.10.21

Perfformiad BSL ar 30 Medi

shermantheatre.co.uk / 029 2064 6900

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

05 + 06.10.21

aberystwythartscentre.co.uk / 01970 62 32 32

Pontio, Bangor

08 + 09.10.21

pontio.co.uk / 01248 382828

Theatr Mwldan, Aberteifi

12.10.21

mwldan.co.uk / 01239 621200

Ffwrnes, Llanelli

14.10.21

theatrausirgar.co.uk / 0345 2263510

Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe

16.10.21

taliesinartscentre.co.uk / 01792 602060

Y Stiwt, Rhosllanerchrugog

19.10.21

stiwt.com / 01978 841300

Galeri, Caernarfon

21 + 22.10.21

Perfformiad BSL ar 21 Hydref.

galericaernarfon.com / 01286 685222