Ry’n ni fel cwmni yn falch iawn i fedru cefnogi ysgolion ac felly yn gallu cynnig gweithdai arbennig i gefnogi profiad disgyblion i ddod i wylio ein cynyrchiadau.

Gweithdai 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr o bob oed i fwynhau theatr Gymraeg ac eisiau gwahodd ysgolion cynradd (lle’n addas), ysgolion uwchradd, sefydliadau addysg bellach a phrifysgolion i gydweithio gyda ni a chymryd rhan mewn amryw weithdai. 

Gallwn gynnig amryw o weithdai gwahanol, gan gynnwys gweithdai ynghlwm â chynhyrchiadau penodol, neu gweithdai cyffredinol am fyd y theatr.

Yn y gorffennol, mae'r gweithdai wedi cynnwys gweithdai ysgrifennu i’r llwyfan gyda dramodwyr a gweithdai dylunio set. Ry’n ni hefyd yn agored ac yn hyblyg gyda’r hyn yr ydym yn cynnig.

Mae’r gweithdai yma yn ddibynnol ar argaeledd staff ac artistiaid, ond byddwn yn hapus i drefnu gweithdai ar unrhyw adeg sydd yn gyfleus i’r ysgolion ac i ni yma yn Theatr Genedlaethol Cymru.

Cysylltwch â Sian Elin am fwy o wybodaeth: sian.elin@theatr.com 

Casgliad Dysgu

Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod theatr iaith Gymraeg ar gael i ysgolion, sefydliadau addysg uwch, addysg bellach a’r sector addysg ehangach.

Bwriad ein Casgliad Dysgu yw rhoi cyfle i ddarlithwyr, athrawon, myfyrwyr, disgyblion addysgwyr a dysgwyr i wylio, astudio a mwynhau theatr Gymraeg.