Drama i godi’r galon; rom-com yn ymdrin â chariad, cyfeillgarwch a chalonnau dryslyd ar faes yr Eisteddfod. Cynhyrchiad Melangell Dolma, Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd, gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru drwy Gronfa Gari, a Chanolfan Mileniwm Cymru gan Melangell Dolma OED: 11+
Bwriad y casgliad hwn yw rhoi cyfle i ddarlithwyr, athrawon, myfyrwyr, disgyblion addysgwyr a dysgwyr i wylio, astudio a mwynhau theatr Gymraeg. Mae capsiynau caeëdig Cymraeg a Saesneg ar gael ar bob cynhyrchiad yn y casgliad.
2008 oedd y tro cyntaf i ni recordio archif o gynhyrchiad er mwyn cofnodi gwaith y cwmni, sef Siwan gan Saunders Lewis. Gwnaed hynny gydag drwy ffilmio gydag un camera a recordio sain o’r llwyfan. Yn 2016, yn y Sherman, recordiwyd Mrs Reynolds a’r Cena Bach gan Gary Owen (trosiad Meic Povey), gyda phum camera a sain drwy ffrwd sain arbennig fel rhan o beilot ffrwd byw sioe theatr. Yna, ar 14 Chwefror 2017, darlledwyd cynhyrchiad safle-benodol o Macbeth – clasur Shakespeare, wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas – o Gastell Caerffili i ganolfannau ar draws Cymru fel rhan o fenter newydd Theatr Gen Byw.
Ers hynny, rydym wedi ffilmio’r mwyafrif o’n cynyrchiadau er mwyn eu rhannu ar-lein gyda’r sector addysg a chefnogi astudiaethau Drama, Cymraeg a Saesneg yng Nghymru. Mae’r casgliad hwn ar gael am ddim i’r sector addysg yng Nghymru, a cheir rhagor o wybodaeth am adnoddau dysgu ychwanegol isod.
Y casgliad
-
BachuGweld y casgliad
-
Blodeuwedd
gan Saunders Lewis. Cynhyrchiad safle-benodol awyr agored yn Nhomen y Mur, Trawsfynydd o un o glasuron mawr y byd llenyddol. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â CADW a Pharc Cenedlaethol Eryri OED: 12+
Gweld y casgliad -
Carys Ac Andy
gan Elin Gwyn. Wrth i’r cyfyngiadau symud gadw Carys ac Andy ar wahân, mae’r cwpl yn troi at Zoom a FaceTime i gadw mewn cysylltiad. Un o Ddramâu Micro BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. OED: 14+
Gweld y casgliad -
Enfys
gan Melangell Dolma. Mae enfysau ym mhob man yn awr. Enfysau o ddiolch i’n gweithwyr allweddol ac i’r GIG. Mae Enfys yn un o Ddramâu Micro BBC Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. OED: 12+
Gweld y casgliad -
Er Cofid 19
gan Er Cof. 4 Ffrind. 6 Awr. Cannoedd o Eiriau. Dyma Er Cofid 19. Yn y perfformiad digidol cyntaf o’i fath drwy gyfrwng y Gymraeg, ymunwch â phedwar ffrind dan glo, wrth iddynt ladd amser, pryfocio a rhoi’r byd yn ei le. Rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, mewn partneriaeth gyda BBC Cymru Wales a BBC Arts OED: 14+
Gweld y casgliad -
Estron
gan Hefin Robinson. Drama newydd, amgen ar gyfer y genhedlaeth hon; enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, 2016. Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Theatrau Sir Gâr. OED: 11+
Gweld y casgliad -
Fy Ynys Las
gan Eddie Ladd. Does unman yn debyg i gartref. Ond sut mae dod i ’nabod y lle arbennig hwnnw go iawn? Cynhyrchiad digidol gan yr artist arobryn Eddie Ladd, gafodd ei greu fel rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, mewn partneriaeth gyda BBC Cymru Wales a BBC Arts OED: 12+
Gweld y casgliad -
Macbeth
Trosiad Cymraeg Gwyn Thomas o drasiedi William Shakespeare. Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas. Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter OED: 14+
Gweld y casgliad -
Milwr yn y Meddwl
gan Heiddwen Tomos. Mae Milwr yn y Meddwl yn ymdrin â chyflwr PTSD, ac yn dilyn stori cymeriad o’r enw Ned sydd wedi dod yn ôl adref i orllewin Cymru o faes y gad. Mae ei brofiadau diweddar yn rhyfel Irac wedi gadael creithiau dyfnion; rhai’n greithiau gweledol, ac eraill – y rhai dyfnaf – yn anweledig. Dyma ddrama newydd, ddirdynnol sy’n archwilio effaith trawma ar filwr o Gymro, wrth iddo ef a’i deulu geisio dod i delerau â digwyddiadau dychrynllyd o’i orffennol a’r heriau newydd sy’n ei wynebu. Drama fuddugol Cystadleuaeth y Fedal Ddrama, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr y Sherman mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. OED: 13+
Gweld y casgliad -
Mrs Reynolds a'r Cena Bach
Mrs Reynolds a'r Cena Bach gan Gary Owen. Trosiad gan Meic Povey. Mae’r ddrama gyfoes hon gan yr awdur gwobrwyol Gary Owen – ac un o’n awduron Cymreig mwyaf beiddgar – yn cynnig golwg newydd, ffraeth a chadarnhaol ar y natur ddynol ac ar berthynas dwy genhedlaeth a dau ddosbarth cymdeithasol yng Nghymru heddiw. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Frân Wen a Galeri. OED: 12+
Gweld y casgliad -
Nos Sadwrn o Hyd
Mae Nos Sadwrn o Hyd yn addasiad Cymraeg gan Roger Williams ei hun o’i ddrama boblogaidd Saturday Night Forever. Bu’r ddrama Saesneg wreiddiol yn boblogaidd o’r cychwyn cyntaf gyda chynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd. Comisiynwyd yr addasiad Cymraeg hwn gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Stonewall Cymru ac fe’i gyflwynwyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, gan gwmni OOMFF, fel rhan o raglen Mas ar y Maes, sef prosiect ar y cyd rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Stonewall Cymru a’r gymuned LGBTQ+. Fe aeth Nos Sadwrn o Hyd ar daith ar y cyd â Merched Caerdydd gan Catrin Dafydd. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mas ar y Maes, Stonewall Cymru ac Oomff, gyda chefnogaeth gan Theatr Clwyd. OED: 14+
Gweld y casgliad -
O Ben'Groes at Droed Amser
gan Karen Owen gyda Maggie Ogunbanwo. Dau ffrind, hanner awr o daith, llu o atgofion – a’r cyfan y tu ôl i fasgiau mewn cyfnod o bandemig byd-eang. Ymunwch â’r awdur a’r bardd Karen Owen wrth iddi gamu ar fws a chychwyn ar daith o’i chartref, a’r stryd lle y’i magwyd, at y cloc yn sgwâr Bangor. Rhan o Creu Ar-lein, sef cynllun gan Theatr Genedlaethol Cymru i ymateb i argyfwng y coronafeirws a’r her o greu gwaith dramatig gwreiddiol mewn cyfnod o ymbellhau cymdeithasol. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales, mewn partneriaeth gyda BBC Cymru Wales a BBC Arts OED: 14+
Gweld y casgliad -
Sgidie, Sgidie, Sgidie
gan Mared Roberts. Mae Sgidie, Sgidie, Sgidie gan Mared Roberts – drama fuddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019 – yn stori garu anghyffredin sy’n gosod digartrefedd, tlodi ac anghyfartaledd cymdeithasol ar ganol llwyfan rithiol. Daw’r cyfan yn fyw mewn cyflwyniad ar-lein sy’n ymateb i’r her o greu theatr yn y cyfnod o fod dan glo. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod yr Urdd OED: 12+
Gweld y casgliad -
X
gan Rhydian Gwyn Lewis. Dyma ddrama newydd gyffrous am griw ifanc o derfysgwyr Cymraeg sydd wedi’i gosod ar drothwy refferendwm yn y flwyddyn 2039 i benderfynu a ddylai Cymru uno gyda Lloegr i greu gwladwriaeth newydd. Drama fuddugol Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth Ystâd Lenyddol Gwenlyn Parry a Chronfa Goffa Hugh Griffith. OED: 14+
Gweld y casgliad -
Y Cylch Sialc
Der kaukasische Kreidekreis (The Caucasian Chalk Circle) gan Bertolt Brecht. Trosiad gan Mererid Hopwood gyda cherddoriaeth wreiddiol fyw gan Gwenno. Mewn cynhyrchiad newydd trawiadol, mae’r clasur hwn o’r ugeinfed ganrif yn byrlymu â cherddoriaeth, hiwmor tywyll a chymeriadau bywiog; stori epig am wneud daioni mewn byd sy’n llawn drygioni. Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Theatrau Sir Gâr OED: 11+
Gweld y casgliad -
Y Tad
gan Florian Zeller. Trosiad gan Geraint Løvgreen. Mae byd y tad a’i ben i waered. Pwy ydi’r bobl ddieithr yma yn ei dŷ? Ai ei dŷ o ydi hwn, tybed? Trosiad newydd i’r Gymraeg o Le Père, enillydd Gwobr Molière 2014 am y Ddrama Orau, ac enillydd cystadleuaeth Trosi Drama i’r Gymraeg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2016. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Pontio. OED: 11+
Gweld y casgliad -
Y Tŵr
gan Guto Puw. Libreto gan Gwyneth Glyn.Yn seiliedig ar y ddrama gan Gwenlyn Parry. Daw drama enwog Gwenlyn Parry yn fyw unwaith eto, ond, y tro hwn, ar ffurf opera newydd, deimladwy a thelynegol. Cynhyrchiad Music Theatre Wales a Theatr Genedlaethol Cymru wedi ei gyflwyno’n wreiddiol gan Theatr y Sherman a Gŵyl Bro Morgannwg 2017. OED: 14+
Gweld y casgliad -
Pryd mae'r Haf
Mewn trosiad newydd i’r Gymraeg wedi’i osod yng nghymoedd y de ym 1989, dyma ddrama dyner am gyfeillgarwch, gobeithion ac ofnau pobl ifanc ym mhob oes.
Gweld y casgliad -
Help(U)
Help(u). Ffilm Fer gan Rhiannon Williams yn archwilio braint pobl wyn. Enillydd y Fedal Ddrama, Eisteddfod Yr Urdd 2021.
Gweld y casgliad -
Gwydr
Hawliau merched yw hawliau dynol. Mae’n bryd chwalu’r nenfwd gwydr.
Gweld y casgliad -
Faust a Greta
Cynhyrchiad Frân Wen, Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio
Gweld y casgliad -
Anfamol
“Ella dwi’n rhy ffysi. Ond dwi jest rioed ’di ffeindio ‘Yr Un.’ I fod yn onest, dwi’n ffeindio dynion yn rili, rili annoying.”
Gweld y casgliad -
Enfys
Cynhyrchiad BBC Cymru Fyw a Theatr Genedlaethol Cymru.
Gweld y casgliad -
Tylwyth
Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond – mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr – mae e wedi syrthio mewn cariad.
Gweld y casgliad -
Merched Caerdydd
Am fod 2018 yn flwyddyn o gofio canrif ers i rai menywod gael yr hawl i bleidleisio, Dyma monologau am fenywod oedd yn byw yng Nghaerdydd heddiw ac yn medru’r Gymraeg. 14+
Gweld y casgliad -
Nyrsys
Dyma ddarlun o’r galon o fywyd a gwaith yr arwyr hyn sy’n gofalu amdanom ni.
Gweld y casgliad