Casgliad Dysgu

Fel adnodd arbennig i ysgolion, sefydliadau addysg uwch, addysg bellach a’r sector addysg ehangach, mae ein Casgliad Dysgu yn cynnwys mynediad ecsgliwsif i rai o gynyrchiadau archif Theatr Cymru - yn cynnwys ffilmiau'r cynyrchiadau, pecynnau addysg ac adnoddau a ddefnyddiwyd yn ystod y teithiau gwreiddiol. 

Bwriad ein Casgliad Dysgu yw rhoi cyfle i ddarlithwyr, athrawon, myfyrwyr, disgyblion addysgwyr a dysgwyr i wylio, astudio a mwynhau theatr Gymraeg. Mae capsiynau caeedig Cymraeg a Saesneg ar gael ar bob cynhyrchiad yn y casgliad. 

Mae’r casgliad hwn ar gael am ddim i’r sector addysg yng Nghymru. I gofrestru ar gyfer cael mynediad i Casgliad Dysgu, cysylltwch â sian.elin@theatr.com er mwyn derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair.

Gweithdai 

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr o bob oed i fwynhau theatr Gymraeg ac eisiau gwahodd ysgolion cynradd (lle’n addas), ysgolion uwchradd, sefydliadau addysg bellach a phrifysgolion i gydweithio gyda ni a chymryd rhan mewn amryw weithdai. 

Gallwn gynnig amryw o weithdai gwahanol, gan gynnwys gweithdai ynghlwm â chynhyrchiadau penodol, neu gweithdai cyffredinol am fyd y theatr.

Yn y gorffennol, mae'r gweithdai wedi cynnwys gweithdai ysgrifennu i’r llwyfan gyda dramodwyr a gweithdai dylunio set. Ry’n ni hefyd yn agored ac yn hyblyg gyda’r hyn yr ydym yn cynnig.

Mae’r gweithdai yma yn ddibynnol ar argaeledd staff ac artistiaid, ond byddwn yn hapus i drefnu gweithdai ar unrhyw adeg sydd yn gyfleus i’r ysgolion ac i ni yma yn Theatr Genedlaethol Cymru.

Cysylltwch â'n Cydlynydd Cyfranogi Sian Elin am fwy o wybodaeth: sian.elin@theatr.com