Ydych chi'n angerddol ac yn uchelgeisiol dros y celfyddydau yng Nghymru? Ry'n ni'n chwilio am hyd at 6 aelod newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Mae bod yn un o Ymddiriedolwyr Theatr Cymru yn rhoi cyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau. Mae bod yn Ymddiriedolwr yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at ffyniant y cwmni a theatr Gymraeg yn y dyfodol.
Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, sydd ag uchelgais, ac sy’n frwdfrydig. Yn ogystal, ry’n ni’n chwilio am rai Ymddiriedolwyr sydd ag arbenigedd neu brofiad yn y meysydd canlynol:
- Cyllid a rheolaeth ariannol
- Theatr, fel ffurf artistig (yn cynnwys gweithwyr llawrydd)
- Llywodraethiant
- Adnoddau Dynol
- Marchnata a Chyfathrebu
Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein Bwrdd mor gynhwysol a chynrychioliadol â phosib. Os ydych yn ystyried bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â ni i drafod.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â ni:
angharad.leefe@theatr.com
07903 842554
Diddordeb? Llenwch y Ffurflen Mynegi Diddordeb er mwyn i ni gael dysgu tipyn amdanoch chi, ac i chi gael dweud sut y byddai’r cwmni yn elwa o’ch cyfraniad.
Os oes well gennych gyflwyno’r wybodaeth yma ar ffurf fideo mae croeso i chi wneud hynny. Mae'r manylion llawn ar gael yn y pecyn recriwtio.
Dyddiad Cau: 23 Ionawr 2025, 2pm.
Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 10 Chwefror 2025.