Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol (ASM) – Romeo a Juliet

Ry’n ni’n chwilio am Reolwr Llwyfan Cynorthwyol (ASM) i ymuno â'n tîm cynhyrchu gwych ar gyfer ein sioe hydref, Romeo a Juliet. Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o dîm croesawgar fydd yn dod â chynhyrchiad newydd uchelgeisiol i’r llwyfan.  

Lleoliad: Ymarferion yng Nghaerdydd, wedyn taith ledled Cymru a pherfformiadau yn Llundain  

Cytundeb: 26 Awst – 9 Tachwedd 2025 

Cyflog: £552.55 yr wythnos 

Bydd 6 o wythnosau ymarfer yn Theatr y Sherman, Caerdydd, gyda’r sioe yn agor ar 29 Medi tan 3 Hydref. Bydd 3 wythnos o daith ledled Cymru yn dilyn, cyn wythnos o ail-ymarfer yng Nghaerdydd ac yna wythnos o berfformiadau yn Shakespeare's Globe, Llundain. 

Bydd y cwmni yn darparu llety, trafnidiaeth a chostau dyddiol.  

Mae'r wybodaeth lawn am gyfrifoldebau'r rôl ar gael yn y pecyn swydd.

I ymgeisio
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol sy’n amlinellu eich profiad a’ch diddordeb yn y rôl at swyddi@theatr.com erbyn 17 Gorffennaf.

Bydd cyfweliadau anffurfiol gyda Gareth Wyn Roberts (Pennaeth Cynhyrchu) a Caryl McQuilling-Edwards (Rheolwr Cynhyrchu Cwmni) yn digwydd ar 24 Gorffennaf.

Ry'n ni'n croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n gymwys, os ydych chi wedi gweithio gyda ni o'r blaen neu beidio.

Mae hefyd croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol cyn cyflwyno cais – gallwch gysylltu â Caryl ar 07903 842562.