Mae Theatr Cymru yn gwahodd ceisiadau tendr gan gwmnïau cyfrifyddu cymwys i ddarparu gwasanaethau Archwilio Allanol am gyfnod o dair blynedd ariannol, o 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2028, gyda'r opsiwn o ymestyn y contract am hyd at ddwy flynedd ychwanegol.
Bydd yr archwiliad angen cydymffurfio â safonau archwilio perthnasol, gan gynnwys Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) , a gofynion statudol y Comisiwn Elusennau a Thŷ’r Cwmnïau.
Gofynion Gwasanaeth
Dylai’r gwasanaeth gynnwys:
- Archwilio cyfrifon blynyddol Theatr Cymru.
- Paratoi datganiadau cyfrifon blynyddol yn unol â safonau elusennau.
- Mynychu cyfarfod blynyddol o’r Pwyllgor Cyllid a Materion Gweithredol i gyflwyno’r canfyddiadau.
- Darparu adroddiadau priodol i’r Pwyllgor, y Bwrdd, a’r awdurdodau statudol.
- Cefnogi swyddogion gyda gofynion adrodd ariannol i Dŷ’r Cwmnïau a’r Comisiwn Elusennau.
- Cymorth gyda hawliadau Rhyddhad Treth Theatr i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC).
- Ymateb i ymholiadau perthnasol o fewn amserlen resymol (fel arfer 5–10 diwrnod gwaith)
- Cydymffurfio â GDPR a darparu mesurau priodol i sicrhau diogelu data.
Gallwch ddarllen holl fanylion y gofynion a sut i dendro yn y pecyn gwybodaeth isod.
Rhaid anfon ymholiadau at: angharad.leefe@theatr.com. Bydd ymatebion yn cael eu rhannu gyda'r holl dendrwyr heb ddatgelu pwy a ofynnodd.
Dyddiad cau tendrau: 23 Mawrth 2026 (17:00)
Cyfweliadau (os yn briodol): Wythnos yn dechrau 30 Mawrth 2026
Cychwyn y contract: Cyn gynted â phosib – ar gyfer archwiliad 2025/26
Diwedd y contract: Pan fydd cyfrifon archwiliedig 2027/28 wedi eu cwblhau (gydag opsiwn 2 flynedd ychwanegol)