Galwad Agored | Miss Prydderch

Hoffi actio a chanu? Ry’ ni’n awyddus i gwrdd ag actorion sy’n canu er mwyn castio ar gyfer y cynhyrchiad dychymygus, chwareus ac hudolus.  

 

Mae Theatr Cymru, Yr Egin ac Cwmni Theatr Arad Goch, gyda chefnogaeth gan Theatrau Sir Gâr, yn cyflwyno sioe gerdd newydd sbon gan Mererid Hopwood – sy'n seiliedig ar ei chyfres o lyfrau Dosbarth Miss Prydderch - Wedi’i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly a Ffion Wyn Bowen a gyda cherddoriaeth gan Seiriol Davies. Bydd y cynhyrchiad yn teithio i theatrau ledled Cymru yn ystod tymor ysgol yr haf 2026, ar gyfer ysgolion cynradd a theuluoedd.

 

Pwy ni’n chwilio amdano?

Rydym yn chwilio am 7 actor sy’n ateb y gofynion castio fynegi diddordeb ac ry’ ni’n arbennig o awyddus i weld actorion sy'n byw o fewn 25 milltir i Gaerfyrddin.

-            2 x actor benywaidd / anneuaidd - 30au+ 

-            1 x actor gwrywaidd / anneuaidd - 30au+ 

-            2 x actor benywaidd / anneuaidd  - 11-12 (Oed 18-30, yn ymddangos yn ifanc) 

-            2 x actor gwrywaidd / anneuaidd - 11-12 (Oed 18-30, yn ymddangos yn ifanc) 

 

Bydd angen paratoi 2 ddarn o sgript y byddwn yn rhannu ymlaen llaw, a pharatoi cân ry’ chi’n mwynhau ei chanu, sydd yn dweud stori ac sy’n dangos amrediad eich llais (bydd gofyn i chi canu a cappella neu dod a trac ar USB, ffeil mp3 gyda chi) 

 

Dyddiadau Clyweliadau:

  • Dydd Llun        17/11/25           Yr Egin, Caerfyrddin   
  • Dydd Mawrth 18/11/25            Yr Egin, Caerfyrddin 
  • Dydd Iau              20/11/25          Sherman, Caerdydd 
  • Dydd Gwener  21/11/25           Yr Egin, Caerfyrddin 
  • Dydd Llun         24/11/25            Galeri, Caernarfon  
  • Dydd Mercher  26/11/25           Sherman, Caerdydd (ail glyweliadau yn unig) 
  • Dydd Iau            27/11/25            Sherman, Caerdydd (ail glyweliadau yn unig) 

 

Dyddiadau ymarferion a thaith:

Byddem yn cynnal yr ymarferion rhwng 11 Mai 2026 – 5 Mehefin 2026 yn Yr Egin a’r Wythnos Tech yn Lyric, Theatrau Sir Gâr.

Fe fydd y daith ledled Cymru ymlaen rhwng 6 Mehefin 2026 – 5 Gorffennaf 2026.

 

Mwy o wybodaeth/ ymgeisio:

Cynhyrchiad iaith Gymraeg yw hwn - felly bydd angen i bob actor medru'r iaith.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cynllun hwn neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â Gavin Richards ar gavin.richards@theatr.com