Beth yw Newid Diwylliant | Culture Change?

Diolch i nawdd o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Gwrth-hiliol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, mae Theatr Genedlaethol Cymru a'r cwmnïau cenedlaethol celfyddydol eraill* wedi sefydlu Newid Diwylliant | Culture Change – sef rhaglen gynhwysfawr sydd â’r nod o drawsnewid y sector gelfyddydol Cymraeg i’w wneud yn wirioneddol gynrychioliadol o'r Gymru gyfoes.    

Mae Newid Diwylliant | Culture Change yn cynnig fframwaith i drawsnewid y cwmnïau sy’n rhan o’r cynllun i fod mewn sefyllfa well i ddenu a recriwtio pobl o'r mwyafrif byd-eang ar bob lefel ac i allu darparu gweithleoedd a diwylliant sefydliadol cynhwysol – a hynny drwy rhaglen o hyfforddiant a datblygiad sefydliadol.   

Er mwyn sicrhau perthnasedd ac adlewyrchu profiad bywyd y cymunedau yr ydym am eu denu a'u cynnwys yn ein gweithluoedd a'n cynulleidfaoedd, mae'r rhaglen waith wedi ei gyd-ddylunio gyda’r Grŵp Cyfeillion Beirniadol – grŵp o bobl o’r mwyafrif byd-eang sy’n derbyn tâl am eu hamser a’u harbenigedd.  

Mae 22 sefydliad yn cymryd rhan yn Newid Diwylliant | Culture Change, ac mae'r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant i staff a gweithwyr llawrydd (yn cynnwys hyfforddiant gwrth-hiliaeth); adolygiad o ddiwylliant mewnol ac arferion gwaith y cwmnïau yn arbennig mewn perthynas ag Adnoddau Dynol a recriwtio; a chyfleoedd i ddatblygu arweinwyr o’r mwyafrif byd-eang.  

Am fwy o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch â helo@theatr.com

Bio
Carli De'La Hughes
Carli De'La Hughes Cyfaill Beirniadol

Actor a Chyfarwyddwr a aned yng Nghymru yw Carli De'La Hughes. Magwyd Carli yn Abertawe a mynychodd addysg cyfrwng Cymraeg, cyn mynd ymlaen i hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei gwaith ar y sgrin yn cynnwys ITV Emmerdale, Sky One ‘Stella’, ‘Hinterland’ y BBC, a sebon S4C ‘Pobol y Cwm’. Cyfarwyddodd Carli Betty Campbell (cynhyrchiad Mewn Cymeriad, gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru), a bu’n Gyfarwyddwr Cyswllt ar The Merthyr Stigmatist (Theatr y Sherman).

Hoff ddyfyniad Carli:
"Nid wyf bellach yn derbyn y pethau na allaf eu newid. Rwy'n newid y pethau na allaf eu derbyn."

Della Hill
Della Hill Cyfaill Beirniadol

Mae Della yn arbenigo mewn rheoli prosiectau a datblygu busnes i wella cyfeiriad strategol a gweithredol amrywiaeth o sefydliadau ledled y DU. Ar hyn o bryd hi yw Pennaeth Gweithrediadau LTSB, elusen symudedd cymdeithasol sy'n paratoi ac yn cefnogi pobl ifanc ddisglair o gefndiroedd difreintiedig. Mae Della wedi gweithio yn y gorffennol i Lenyddiaeth Cymru, Chwarae Teg, a National Theatre Wales.

Mae ei rolau llawrydd a gwirfoddol presennol yn cynnwys Ymgynghorydd a Siaradwr gyda People Make it Work, Ymddiriedolwr Spread the Word a Chydymaith Pecyn Cymorth WJCB. Drwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi goruchwylio a gweithredu mentrau ar raddfa fawr sy’n cyd-fynd â’i hangerdd dros fynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol a’u datgymalu. Mae hi'n ymroddedig i eiriol dros newid cymdeithasol lefel uchel o fewn y Sector Creadigol, y Celfyddydau a Diwylliant, Addysg a'r Trydydd Sector.

Emily Dafydd-Drew
Emily Dafydd-Drew Cyfaill Beirniadol

Mae Emily'n un o'r Cydlynwyr Creadigol yn Llenyddiaeth Cymru. Y tîm creadigol sydd yn gyfrifol am gyflawni y tri blaenoriaeth: Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb, Iechyd a Llesiant, a'r Argyfwng Hinsawdd, yn ogystal â phrosiectau arloesol trwy'r tair fframwaith: Datblygu Awduron, Cyfranogi, a Diwylliant Llenyddol Cymru.

Jeferson Lobo
Jeferson Lobo Cyfaill Beirniadol

Mae Jeferson Lobo, sy’n enedigol o Frasil, yn gerddor, yn gyfansoddwr ac yn gynhyrchydd sy’n byw yng Nghaerdydd.

Mae cyfansoddiadau Jefferson yn wahoddiad i fyd o bosibiliadau sonig anrhagweladwy. Mae harmonïau swynol o felys wedi’u cyfuno ag alawon lleddfol, ac (ar adegau) ffraeth, yn sail i’w grochan cerddorol, sy’n cynnwys arddulliau megis jazz, cerddorfaol, Lladin, reggae, dyfodolaidd, a cherddoriaeth y byd.

Mason Edwards
Mason Edwards Cyfaill Beirniadol

Mae Mason yn hanu o Gaerdydd, gyda'i wreiddiau yng nghymunedau lleol Butetown a Grangetown. Ar ôl astudio drama a chelfyddydau perfformio yn yr ysgol, aeth ymlaen i gwblhau BA mewn Drama a Pherfformio ym Mhrifysgol Southbank Llundain. Ar hyn o bryd mae’n Gynhyrchydd Cynorthwyol gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac yn frwd dros hwyluso twf artistiaid ifanc ar lefel leol a chenedlaethol.

Onismo Muhlanga
Onismo Muhlanga Cyfaill Beirniadol

Mae Onismo Muhlanga, artist aml-dalentog a aned yn Zimbabwe ac sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd, Cymru, yn crefftio’n gywrain naratifau gweledol barddonol wedi’u hysbrydoli gan fywyd, defodau ac atgofion. Trwy gyfuniad deinamig o gyfryngau, mae hwn yn archwilio themâu llinach, diwylliant brodorol, a thrawsnewid personol. Mae'r cyfryngau artistig yn cydblethu mynegiant creadigol ag undod, lles ac egwyddorion iechyd cyfannol. Gan gydweithio â chymunedau ac artistiaid, mae'n archwilio ffyrdd o ddiogelu, cadw, rhannu ac ehangu doethineb ar y cyd trwy gyd-guradu gyda henuriaeth a chenedlaethau’r dyfodol wrth wraidd archwilio.

Rahim El Habachi
Rahim El Habachi Cyfaill Beirniadol

Mae Rahim El Habachi yn artist aml-ddisgyblaeth, actor, ysgrifennwr ac yn gyfarwyddwr. O 2022 i 2024, gweithiodd fel Cydymaith Creadigol gyda National Theatre Wales. Mae Rahim wedi ysgrifennu a pherfformimo yn sawl cynhyrchiad nodedig, gan gynnwys Beyond the Rainbow gydag Opera Cenedlaethol Cymru, The Love Thief gyda Theatr Sherman, a Touch fel rhan o’r OUT-Rage-US. Fel actor, mae wedi ymddangos yn Cost of Living gyda National Theatre Wales. Yn ychwanegol i'w waith theatr, mae Rahim yn fol-ddawnsiwr ac yn gyflwynwr cabaret, yn perfformio yn nigwyddiadau mawr ar draws y wlad. Ei ymddangosiad mwyaf diweddar oedd yng Ngŵyl Green Man.

Rha Arayal
Rha Arayal Cyfaill Beirniadol

Mae Rha Arayal yn awdur Prydeinig Nepali ac yn fyfyriwr Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi wedi cyhoeddi dau gasgliad barddoniaeth, Encapsulated Emotions a The Wishing Well, ac yn ysgrifennu am ei phrofiadau fel mewnfudwr ail genhedlaeth, iaith a hunaniaeth a’i thref enedigol, Abertawe.

Savanna Jones
Savanna Jones Cyfaill Beirniadol

Daw Savanna o Gaerdydd ac mae’n fam i ddau o blant. Mae hi’n gweithio yn y maes addysg uwch ac addysg drydyddol gan ganolbwyntio ar ehangu mynediad a chynhwysiant, wedi iddi gwblhau gradd meistr ym mholisi cyhoeddus. Mae’n gwirfoddoli ar fwrdd Mudiad Meithrin ac yn cydweithio gyda mudiadau Cymraeg i hyrwyddo ymarferion gwrth hiliol a hybu arferion sy’n hygyrch i bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Mae Savanna yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. 

Yasmin Begum
Yasmin Begum Cyfaill Beirniadol

Mae Yasmin Begum yn awdur, ymgyrchydd ac ymchwilydd Cymreig-Pacistanaidd sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae hi wedi’i chyhoeddi yn Gal-Dem, Nation.Cymru, Planet, Wales Arts Review, the Welsh Agenda, BBC Cymru Fyw, a Media Diversified. Yn fwyaf diweddar, mae Yasmin wedi gweithio fel ymchwilydd ar Archif Carnifal Butetown gyda Chymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown. Mae hi'n rhedeg cylchlythyr o'r enw Dadgoloneiddio Cymru ar Substack.

Yusef Bastawy
Yusef Bastawy Cyfaill Beirniadol

Mae Yusef yn Gynhyrchydd Digidol i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW), sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae e'n gyfrifol am greu cynnwys digidol, yn aml ar ffurf Cyngherddau Digidol sy'n cael eu ffilmio gan ddefnyddio systemau aml-gamera; cynnwys fideo ffurf fer fel cyfweliadau a rhaghysbysebion ar gyfer cyfryngau cymdeithasol; a ffotograffiaeth ar gyfer llyfrynnau tymor a thudalennau gwe.
Mae wedi rheoli prosiectau ar raddfa fawr yn ffrydio cyngherddau digidol yn fyw i ysgolion ledled Cymru, yn ogystal â chreu cynnwys ar gyfer Proms y BBC.

Mae'r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn rhaglen Newid Diwylliant | Culture Change yn cynnwys:

Arad Goch

Ballet Cymru

Canolfan Mileniwm Cymru

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Casnewydd Fyw

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC)

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Cyngor Llyfrau Cymru

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ffilm Cymru Wales

Llenyddiaeth Cymru | Literature Cymru

National Theatre Wales

Opera Cenedlaethol Cymru

Oriel Mostyn

Oriel Myrddin

Plant y Cymoedd

Tanio

Theatr Genedlaethol Cymru

Theatr Iolo

Theatrau RhCT

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen