Mae Cymru’n wlad amrywiol.
Er mwyn bod yn gwmni sy’n wirioneddol genedlaethol, mae’n gyfrifoldeb arnom ni i herio’r cysyniad o hunaniaeth Gymraeg sefydlog a dathlu’r croestoriadau o hunaniaethau sy’n bodoli yng Nghymru; i wneud theatr i bawb o bobl Cymru.
Sut ry’n ni’n gweithredu:
Mae Theatr Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad mor gynhwysol â phosib – i’n cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, artistiaid a’n gweithwyr. Mae hynny’n golygu mwy na sicrhau amrywiaeth a chynrychiolaeth. Mae’n golygu gwerthfawrogi gwahaniaeth a chreu amgylchedd sy’n sicrhau bod pob gweithiwr, artist a chyfranogwr yn gallu cyrraedd eu llawn botensial ac yn teimlo bod modd iddyn nhw gyfrannu. Mae’n rhaid bod ein cynulleidfaoedd yn gweld eu hunain wedi eu cynrychioli yn ein gwaith a’n bod yn adrodd straeon sy’n berthnasol iddyn nhw. Mae’n rhaid i ni estyn allan.
Ry’n ni’n cydnabod bod ein gwaith a’n ffyrdd o weithio yn y gorffennol wedi eithrio rhai pobl a chymunedau a bod eu straeon a’u profiadau nhw ddim wedi cael eu hadlewyrchu yn ein cynyrchiadau a’n prosiectau. Yn benodol, ry’n ni wedi adnabod bod y tri grŵp canlynol wedi’u tangynrychioli yn ein gwaith: sef pobl anabl, pobl o’r mwyafrif byd eang a phobl o gefndiroedd incwm isel.
Tra bod tipyn o gynnydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o waith i’w wneud eto; ac ry’n ni fel cwmni yn ymrwymo i gyflawni’r gwaith hwn.
Mae ein nodau gweithredu yn cynnwys:
- Datblygu rhaglen artistig sy’n apelio at ystod eang o bobl trwy addasu ein ffocws comisiynu i ganolbwyntio ar amrywiaeth o leisiau, adrodd storïau’r Gymru gyfoes a dathlu hunaniaethau Cymru gyfoes.
- Cynyddu amrywiaeth y bobl sy’n gweithio i’r cwmni – fel artistiaid, gweithwyr llawrydd ac aelodau staff – ac yn ei lywodraethu
- Parhau i ehangu mynediad drwy sicrhau bod ein gwaith yn hygyrch ar bob cam a datblygu cynulleidfaoedd mwy amrywiol ar y cyd â phartneriaid strategol a chymunedau Cymru
- Parhau i ddatblygu a chynnal gweithgaredd cyfranogi sy’n hygyrch, yn berthnasol ac yn ymwneud â grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli
I sicrhau bod y materion yma yn cael eu trafod ar bob lefel y cwmni, ry’n ni wedi sefydlu Gweithgor Amrywiaeth a Chynhwysiant sy’n cynnwys ymddiriedolwyr, aelodau staff a gweithwyr llawrydd.
Gwaith ehangach yn y sector:
Ry’n ni’n arwain ar y prosiect Newid Diwylliant | Culture Change, mewn partneriaeth â’r Cwmnïau Cenedlaethol eraill, gyda chyllid o Gronfa Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon Cymru Wrth-hiliol i ddarparu rhaglen helaeth o hyfforddiant i’r gweithlu creadigol, yn cynnwys hyfforddiant gwrth-hiliaeth, ar gyfer 18 o sefydliadau, a rhaglen o waith sy’n ysgogi newid sefydliadol a diwylliannol a chynllun recriwtio ar y cyd sy’n cael ei yrru gan gynhwysiant.
Defnydd iaith ac esblygiad termau:
Ry’n ni’n ceisio sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn teimlo fel iaith gyfoes sy’n gallu ymateb i gwestiynau mawr a thrafod heriau cymdeithasol. Mae diffinio hunaniaeth a hil yn gymhleth ac yn aml-haenog. Rydym wedi penderfynu defnyddio ‘mwyafrif byd-eang’ a ‘phobl anabl’ fel termau ymbarél. Pan yn cyfeirio at unigolion neu gymunedau byddwn yn ceisio bod mor benodol â phosib gyda’n defnydd o iaith a thermau. Rydym hefyd yn cydnabod bod termau a defnydd iaith wrth drafod bobl sydd gyda hunaniaethau diwylliannol gwahanol yn esblygu o hyd ac felly rydym yn ymrwymo i ddilyn y drafodaeth ar hyn ac adolygu ein hiaith lle bo angen.
Byddwn ni’n parhau i weithredu a dwyn ein hunain i gyfrif wrth i ni geisio bod mor gynhwysol â phosib. Os hoffech fwy o wybodaeth am ein hymrwymiad tuag at amrywiaeth a chynhwysiant neu i rannu eich syniadau ar sut y gallwn ni wella’n hymdrechion, cysylltwch â ni.