Creu theatr Gymraeg fel man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, Cymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon.
Ein Gweledigaeth
Ein Cenhadaeth
Theatr deithiol genedlaethol sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, yn agored ac yn groesawgar i bawb, gan sicrhau dyfodol disglair i’n hiaith a’n diwylliant.
Theatr Cymru yw’r cwmni theatr cenedlaethol iaith Gymraeg.
Mae Theatr Cymru yn creu profiadau theatrig beiddgar sy’n diddanu ac ysbrydoli pobl Cymru.
Rydym yn creu man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, Cymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon. Rydym hefyd yn creu cyfleoedd sy’n fodd i feithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid theatr Cymraeg ynghyd â chyfleoedd i bobl ledled Cymru brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd yn eu bywydau.
Sefydlwyd y cwmni ym mis Mawrth 2003, trwy nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. O’r cychwyn cyntaf roedd un peth yn glir – mai nod y cwmni fyddai teithio, a mynd â theatr Gymraeg ei hiaith i galon cymunedau ledled Cymru, gan ddathlu ein hunaniaeth a’n hiaith yn ei holl amrywiaeth.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi cofleidio clasuron y theatr Gymraeg a gwaith arbrofol newydd sbon, ac wedi cyflwyno’r cyfan ar lwyfannau traddodiadol ac mewn lleoliadau annisgwyl. Yn ogystal â hyn mae’r cwmni’n rhedeg prosiectau creadigol, llesiant a cyfranogol ar draws y wlad.
Mae’r cwmni bellach yn theatr deithiol uchel ei chlod sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, sy’n agored ac yn groesawgar i bawb. Gyda Steffan Donnelly yn arwain fel Cyfarwyddwr Artistig ers 2022, ochr yn ochr â’i Gyd-Brif Weithredwr Angharad Jones Leefe, ac enw newydd i’r cwmni, mae oes newydd yn gwawrio.
Mae Theatr Cymru yn perthyn i chi.
Enillydd Gwobr UK Theatre 2024 am Ragoriaeth Mewn Teithio
Enwebwyd fel Cynhyrchydd y Flwyddyn - Gwobrau'r Stage 2024