“O ddarn o bren y gwnaed o, o’i gorun moel i’w draed o…”
Mae bywyd yn gallu bod yn anodd pan ti wedi dy greu o froc môr. Wrth i’r Hogyn Pren hudolus chwilio am ei galon, mae mam yn darganfod darn o gwch wedi’i olchi i’r lan. A fydd eu cyfarfod annisgwyl yn dod â gobaith newydd neu a fydd atgofion o’r gorffennol yn ei llethu?
Ar ôl swyno cynulleidfaoedd yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, mae’r antur hudolus yma i’r teulu i gyd yn cyfuno pypedwaith cywrain, stori afaelgar a cherddoriaeth arallfydol. Wedi’i greu gan Owain Gwynn (War Horse, Life of Pi), mae Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno stori ysbrydoledig am bŵer cysylltiad annisgwyl.
Yn ogystal â'r perfformiadau cyhoeddus a restrwyd isod, bydd Yr Hogyn Pren yn ymweld â'r ysgolion isod fel rhan o Ŵyl Agor Drysau:
- Ysgol Gymraeg Aberystwyth
- Ysgol Llanfarian
Yng Ngŵyl Agor Drysau
Addas i bob oed.
Yn cynnwys cyfeiriadau at galar a marwolaeth plentyn
Dyddiadau’r Daith
-
12 Maw 20249.30amPerfformiad bywPromenâd Aberystwyth (wrth ymyl y Bandstand)
-
12 Maw 202412.30pmPerfformiad bywPromenâd Aberystwyth (wrth ymyl y Bandstand)
-
13 Maw 202412.30pmPerfformiad bywCanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Y Fam Rhian Blythe
Pypedwr Owain Gwynn
Pypedwr Fred Davis
Pypedwr Chris Milford
Crewyd gan Owain Gwynn
Sgript Elidir Jones
Cyfarwyddwr Steffan Donnelly
Cyfarwyddwr Pypedau Owain Gwynn
Pypedau wedi eu cynllunio a’u creu gan Theatr Byd Bach
Cerddoriaeth Lisa Jên Brown a Martin Hoyland
Gwisgoedd Luned Gwawr
Delwedd a Dylunio Graffeg Frank Duffy