Dramodwyr digri, cast penigamp ac awr wyllt o ddrama a direidi yng Nghaffi Maes B...
Mae Theatr Cymru a Theatr Clwyd yn falch iawn o gydweithio eto gyda Wrecslam!, fydd yn cael ei berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym mis Awst eleni.
---
Ar y Ffin
gan Gruffydd Ywain
Mae ffigurau dirgel o hanes Wrecsam yn ymgynnull ar y ffin, ond at ba bwrpas?
Paid Anghofio dy Ffôn
gan Llinos Gerallt
Mae Ffion yn gaeth i'w ffôn... ond beth sy'n digwydd pan mae'r Apps yn dechrau siarad nôl?
Cynhadledd i'r Wasg
gan Mel Owen
Beth sy'n digwydd pan nad yw dêt cyntaf rhwng dau berson yn unig... ond hefyd eu pryderon, eu ffrindiau gorau a'u lleisiau mewnol?
Treulio
gan Mirain Fflur
Taith wyllt drwy’r system dreulio i ddarganfod y wefr o ddial.
Rhuglddrws
gan Llŷr Evans
Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenny yn ymweld â maes yr Eisteddfod eleni ac yn cael eu perswadio i fuddsoddi yn nyfodol yr ŵyl...ond mae gan bopeth ei bris!
---
Mae Wrecslam! yn barhad i bartneriaeth hirdymor rhwng Theatr Cymru a Theatr Clwyd, sydd â’r nod o ddatblygu a chynhyrchu gwaith byr Cymraeg newydd. Yn y gorffennol mae’r cwmnïau wedi cydweithio ar y papur newydd byw Rwan/Nawr yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, ac yna Ha/Ha ym mhrifwyl y llynedd.
Mynediad am ddim gyda thocyn i'r Maes.
Canllaw Oed 14+
Mae Wrecslam! yn cynnwys themâu aeddfed, iaith gref a defnydd o fwg.
Dyddiadau’r Daith
-
04 Awst 20256pmPerfformiad bywCaffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol
-
05 Awst 20256pmPerfformiad bywCaffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol
-
06 Awst 20256pmPerfformiad bywCaffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol
-
07 Awst 20256pmPerfformiad bywCaffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol
Isabella Colby Browne
Noel Davies
Caitlin Drake
Dewi Wykes
Dramodydd Llyr Evans
Dramodydd Mirain Fflur
Dramodydd Llinos Gerallt
Dramodydd Mel Owen
Dramodydd Gruffydd Ywain
Cyfarwyddwr Rhian Blythe
Cyfarwyddwr Daniel Lloyd
Cyfarwyddwr Cerdd Barnaby Southgate
Cynllunydd Set a Gwisgoedd Livia Jones
Cyfarwyddwr Symud Jess Williams
Dylunio Graffeg Kelly King
-
Isabella Colby Browne
-
Noel Davies
-
Caitlin Drake
-
Dewi Wykes
-
Llyr Evans
-
Mirain Fflur
-
Llinos Gerallt
-
Mel Owen
-
Gruffydd Ywain
-
Rhian Blythe
-
Daniel Lloyd
-
Barnaby Southgate
-
Livia Jones
-
Jess Williams