Cyflwynir Tremolo trwy lygaid Harri, bachgen gofalgar yn ei arddegau. Fel llawer o bobl ifanc sydd newydd gwblhau eu harholiadau Lefel A, mae Harri’n edrych ymlaen yn llawn cyffro at y dyfodol: teithio Ewrop ar y trên gyda’i ffrind, yna mynd i’r brifysgol i ddilyn ei freuddwyd o fod yn lawfeddyg-niwro. Ond, ar amrantiad, mae ei fyd yn cael ei droi ben i waered pan gaiff ei fam ddiagnosis o eFAD – Alzheimer's Cychwyn Cynnar Teuluol. O ran geneteg, mae siawns o 50% y gall Harri a'i chwaer iau Gwenllian ddatblygu'r cyflwr. Dyma ddrama bodlediad pwerus sy'n archwilio effaith y cyflwr creulon hwn ar berthnasoedd teuluol, y pwysau ariannol, y newidiadau i fywyd bob dydd, a cheisio cadw'r gobaith wrth edrych i'r dyfodol.
Gyda pherfformiad arobryn gan Gareth Elis, ennillydd Gwobr Marc Beeby yng Ngwobrau Drama Sain y BBC 2023 am ei waith ar y ddrama sain bwerus hon.
Sut i wrando:
Pecyn addysg:
Harri Gareth Elis
Dramodydd Lisa Parry
Cyfarwyddwr Zoë Waterman
Cyfansoddwr a Thelynores Eira Lynn Jones
Golygu a Chynllunio Sain Rhys Young ar ran Hoot Studios
Dramatwrg a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Branwen Davies
Cerddoriaeth Ychwanegol Drwy Dy Lygid Di, cyfansoddwyd a pherfformiwyd gan Yws Gwynedd
Rhagor o wybodaeth am y cyflwr:
Alzheimer’s Research UK: https://www.alzheimersresearchuk.org
Alzheimer’s Society: https://www.alzheimers.org.uk/
Drama bodlediad yw Tremolo wedi’i chynhyrchu gan Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg.