Sgwrs arlein i ddysgwyr gyda Dysgu Cymraeg:
Dach chi’n hoffi Shakespeare? Dych chi am fynd i weld fersiwn ddwyieithog Theatr Cymru o Romeo a Juliet yr Hydref yma?
Dewch i glywed Steffan Donnelly, cyfarwyddwr y sioe, ac Isabella Colby Browne sy’n actio Juliet yn sôn am y ddrama.
Pryd? Nos Lun, 22 Medi am 7 o’r gloch.
Addas ar gyfer dysgwyr lefel Canolradd, Uwch, Gloywi ac aelodau’r cynllun Siarad.
Y dyddiad cau i gofrestru ydy 21 Medi.
Bydd Dysgu Cymraeg yn anfon y ddolen Zoom ar 22 Medi.
Ewch i wefan Dysgu Cymraeg er mwyn cofrestru.