Rhwydo / Vangst
CASGLU OFNAU A DYHEADAU
Cynhyrchiad theatr gorfforol amlieithog
GAN ROOS VAN GEFFEN & THEATR GENEDLAETHOL CYMRU, MEWN CYDWEITHREDIAD Â CHANOLFAN MILENIWM CYMRU
Mae dyheadau’n cael eu teimlo i’r byw, ac ofnau’n treiddio hyd at yr asgwrn yn y darn hynod hwn o theatr gorfforol o’r Iseldiroedd o waith yr artist unigryw Roos van Geffen. Gydag addasiad Cymraeg gan y llenor arobryn Angharad Price, daw Theatr Genedlaethol Cymru â’r cynhyrchiad rhyfeddol hwn i gynulleidfa Gymreig. Cyflwynir y cyfan mewn theatr deithiol bwrpasol wedi’i chreu’n arbennig ar gyfer y perfformiad, a hynny mewn tair iaith – Cymraeg, Iseldireg a Saesneg.
Bu Roos yn nodi dyheadau ac ofnau pobl ar draws Ewrop, gan ddefnyddio’r straeon personol hyn i greu darn o waith didwyll a thelynegol sy’n treiddio i hanfod y bod dynol. Bydd yn gwau iddo ddyheadau ac ofnau a gesglir ar hyd a lled Cymru yn ystod y daith.
DYDDIADAU
Perfformiwyd Vangst/Rhwydo yn 2013 yn Yr Hen Lawnt Fowlio ym Mangor a Chanolfan y Mileniwm, cyn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych yn 2013
26 – 29 Mehefin, 2013
Yr Hen Lawnt Fowlio, Bangor
3 – 6 Gorffennaf, 2013
Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
3 – 7 Awst, 2013 Maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau, Dinbych
MEWN CYDWEITHREDIAD Â CHANOLFAN MILENIWM CYMRU