Cyd-gynhyrchiad Newydd: Pryd Mae’r Haf?
Cyhoeddi Cast: Pryd Mae’r Haf?
Pryd Mae’r Haf?
gan Chloë Moss
Trosiad gan Gwawr Loader
Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar
“Bydd e’n gwd. Ti a fi. New start.”
Mae Luke a Christie yn ffrindiau gorau sy’n joio gwersylla, yfed cans a siarad am Julie Bridges.
Ond gyda’u dyddiau ysgol yn dod i ben a haf hir o’u blaenau, a fydd Luke, Christie a Julie yn dewis llwybrau gwahanol? A yw tyfu’n hŷn yn golygu tyfu ar wahân?
Mewn trosiad newydd i’r Gymraeg wedi’i osod yng nghymoedd y de ym 1989, dyma ddrama dyner am gyfeillgarwch, gobeithion ac ofnau pobl ifanc ym mhob oes.
Roedd Sibrwd – ein ap mynediad iaith – ar gael ym mhob perfformiad.
Yn sgîl argyfwng COVID-19 (Coronafirws), ochr yn ochr â’n cyd-gynhyrchwyr a phartneriaid, Criw Brwd, Theatr Soar a The Other Room, canslwyd taith genedlaethol Pryd Mae’r Haf? oedd wedi’i threfnu rhwng 20 Ebrill – 8 Mai 2020. Roedd y daith wedi’i threfnu i’r canolfannau canlynol: Ffwrnes (Llanelli); Canolfan Garth Olwg (Pentre’r Eglwys); Pontio (Bangor); Theatr Twm o’r Nant (Dinbych); Glanyrafon (Casnewydd); Canolfan S4C Yr Egin (Caerfyrddin); Theatr Mwldan (Aberteifi); Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Galeri (Caernarfon).
Luke Aron Cynan
Julie Ella Peel
Christie Cellan Wyn
Awdur: Chloë Moss
Awdur y Trosiad: Gwawr Loader
Cyfarwyddwr: Sion Pritchard
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Luned Gwawr Evans
Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins
Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr: Tic Ashfield
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Elin Phillips (aelod o Gynllun Awenau, a gefnogir gan Gronfa Goffa Elinor Wyn Roberts a Chronfa Goffa Graham Laker)
Cyfarwyddwr Corfforol: Eddie Ladd
Cyfarwyddwr Llais: Nia Lynn
Awdur a Gweithredydd Sibrwd: Chris Harris
Rheolwr Cynhyrchu: Ceri James
Rheolwr Llwyfan: Ffen Evans
Dirprwy Reolwr Llwyfan: Ffion Rebecca Evans
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol: Cerys John
Rheolwr Llwyfan Technegol: Angharad Evans
Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain: Cathryn McShane
Adeiladwyr y Set: Telgwen
Canllaw oed: 14+
Yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed.
Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Soar
Cyd-gynhyrchiad Newydd: Pryd Mae’r Haf?
Cyhoeddi Cast: Pryd Mae’r Haf?
“stori oesol … cynhyrchiad i’w groesawu”
Ion Thomas ar ran BBC Radio Cymru (bbc.co.uk/sounds/play/m000f757)
“perfformiadau cryf a stori diddorol iawn”
Kirsty Alexander, Theatre and Tea (theatreandtea.wordpress.com/)
Dyma Mirain Fflur, un o'r artistiaid ar y prosiect