PARTI OLA’R BYD YM MAES B
Am y tro cynta’ erioed - ac am un noson yn unig - bydd Maes B yn cael ei drawsnewid yn lwyfan theatr byw.
Bydd y cynhyrchiad Popeth ar y Ddaear yn gwahodd cynulleidfa i gamu mewn i fyd yn y dyfodol agos ble mae trychineb catastroffig wedi boddi cymunedau.
Fe ddown ar draws Tom, sy'n aros i glywed a fydd yn derbyn lloches, ac Undeg, sydd angen gwneud penderfyniad dros ei hun a’r babi yn ei bol. Byddwn hefyd yn cyfarfod Malltwen ar ei noson olaf ar y ddaear - ac mae hi’n benderfynol o adael y byd mewn gwell stad.
Ymunwch â ni ym mwrlwm Maes B am barti ola’r byd - un fydd yn codi cwestiynau mawr am ein dyfodol. Mae Popeth ar y Ddaear, sydd yn gyd-gynhyrchiad gan Frân Wen ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, wedi ei ysgrifennu gan Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connelly, gyda cherddoriaeth gan Osian Williams (Candelas) a Nico Dafydd yn cyfarwyddo.
Gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Phrifysgol De Cymru.
Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy'r Loteri Genedlaethol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Frân Wen.
Maes B
Nos Wener 11 Awst
11pm
Dyddiadau’r Daith
-
11 Awst 202311pmSioe fywMaes B
Dramodwyr Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connelly
Cyfarwyddwr Nico Dafydd
Cyfansoddwr Osian Huw Williams
Cynllunydd Set a Gwisgoedd Gwyn Eiddior
Coreograffi Matthew Gough
Cynllunydd Sain Sam Jones
Cynllunydd Goleuo Ceri James
Dramatwrg Steffan Donnelly