Parti Priodas: Taith Ryngwladol

Yn dilyn ymateb gwefreiddiol ledled Cymru, mae Parti Priodas gan Gruffudd Owen yn teithio i Lundain ac UDA yn Awst a Medi 2026 - bydd hwn yn barti i'w gofio!

Enillydd Gwobr UK Theatre am Ragoriaeth Mewn Teithio 2024

“Dyma gomedi a oedd yn ddoniol, yn ddeifiol, yn gyfoes, yn boenus o berthnasol o ran ei themâu, yn diddanu ac yn procio'r un pryd.” Barn

★★★★★ "An incredibly fun night out... I can't recommend it enough!" Buzz Magazine

Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha…

Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd. Ond gyda hwnnw ar drothwy pennod newydd cyffrous yn ei fywyd, ydi dyfodol Lowri a’r fferm deuluol ar fin cael ei chwalu’n rhacs? Mae Idris yn hiraethu am ei hen ffrind gorau ac yn dychwelyd i Lŷn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb?

Yn dilyn ymateb gwefreiddiol ledled Cymru, mae Parti Priodas gan Gruffudd Owen yn mynd ar daith ryngwladol fer. Wedi'i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly a chyda pherfformiadau bythgofiadwy gan Mared Llywelyn a Mark Henry Davies, bydd hwn yn barti i'w gofio!

Canllaw Oed: 16+

Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed, taniadau a goleuadau strôb

Dyddiadau’r Daith

  • 27 Awst 2026
    19:30
    Perfformiad byw
    Canolfan Cymry Llundain
  • 28 Awst 2026
    19:30
    Perfformiad byw
    Canolfan Cymry Llundain
  • 02 Medi 2026
    19:30
    Perfformiad byw
    Gŵyl Cymru Gogledd America
Cast

Idris Mark Henry Davies

Lowri Mared Llywelyn

Tîm Creadigol

Dramodydd Gruffudd Owen

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Cynllunydd Set a Gwisgoedd Luned Gwawr 

Cynllunydd Goleuo Jane Lalljee 

Cyfarwyddwr Symud Cêt Haf

Cyfansoddwr Sam Humphreys

Clodrestr

Delwedd Marchnata Kristina Banholzer

Lluniau Cynhyrchiad Mark Douet