Pan Oedd y Byd yn Fach
Gan Siân Summers
Gaeaf 1984, ac mae Streic y Glowyr yn ei hanterth. Mae’r esgid yn gwasgu a thensiynau’n uchel wrth i rai ddychwelyd i’r pwll.
Mewn llecyn tawel ymhell o gythrwfl y llinell biced, daw criw o fechgyn ynghyd yn gynnar un bore i ddangos eu cefnogaeth. Ond nid pawb sy’n cael croeso yno y bore hwn, ac mae un weithred dreisgar, ysgytwol yn newid eu bywydau am byth.
Drama gan Sian Summers am frawdgarwch, brad a thyfu’n ddyn.
Teithiwyd Pan Oedd y Byd yn Fach dros Gymru yn Haf 2015
Y DAITH
14 Mai – 20 Mehefin, 2015
Alun Dyfed Cynan
Garyn Sion Ifan
Dyfed Ceri Murphy
Billy Berwyn Pearce
Kevin Gareth Pierce
Cyfarwyddwr Aled Pedrick
Cynllunydd Cordelia Ashwell
Cynllunydd Goleuo Tim Lutkin
Cyfansoddwr Tom Recknell
Cynllunydd Sain Dyfan Jones
Addas ar gyfer oedran 14+ oherwydd defnydd o iaith gref.
Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Neuadd Gwyn