Nyrsys
Gan fo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi troi yn 70 oed yn 2018, cafwyd cipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru fodern, gyda sgript a chaneuon wedi’u llunio o gyfweliadau â nyrsys go iawn. Rhoddodd y ddrama hon lwyfan i brofiadau nyrsys — yr heriau maen nhw’n eu hwynebu yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a’r direidi, y chwaergarwch, a’r teimlad o alwedigaeth sy’n eu cynnal. Dyma ddarlun o’r galon o fywyd a gwaith yr arwyr hyn sy’n gofalu amdanom ni ac am ein hanwyliaid mewn cyfundrefn iechyd sydd dan bwysau parhaus.
Cyflwynwyd mewn cydweithrediad â Pontio
Aeth Nyrsys ar daith Tachwedd – Rhagfyr 2018
Gan fod y cynhyrchiad hwn yn rhan allweddol o dymor Gofal a Chymuned y cwmni, ac yn dod ar ddiwedd blwyddyn arbennig yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae cynnig arbennig o bris gostyngol neu 10% oddi ar bris tocyn i weithwyr GIG. Mae gofyn i weithwyr GIG ddangos eu cerdyn adnabod a dyfynnu ‘NyrsysGIG’ wrth archebu tocynnau.
Bu cyflwyniad cyhoeddus cyntaf o waith-ar-waith Nyrsys yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar nos Fawrth 17 Ebrill 2018, fel rhan o dymor ‘Perfformiadau i’r Chwilfrydig‘.
Dyddiadau’r Daith
-
06 Tach 201818:30Perfformiad bywPontio, Bangor
-
09 Tach 201819:00Perfformiad bywLyric, Caerfyrddin
-
13 Tach 201817:00Perfformiad bywCanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
-
16 Tach 201819.00 + 19.00Perfformiad bywColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd
-
17 Tach 201813.30 + 19.00Perfformiad bywColeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd
-
20 Tach 201818.30Perfformiad bywTheatr Clwyd, Yr Wyddgrug
-
23 Tach 201818.30Perfformiad bywHafren, Y Drenewydd
-
27 Tach 201818.30Perfformiad bywTheatr Borough, Y Fenni
-
01 Rhag 201819.00Perfformiad bywCanolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe
-
12 Ebr 201819.00Perfformiad bywMwldan, Aberteifi
-
12 Gorff 201819.00Perfformiad bywGaleri, Caernarfon
Carys Gwilym
Elain Lloyd
Mirain Haf Roberts
Mali Jones
Bethan Ellis Owen
Cynllunydd Set a Gwisgoedd Lucy Hall
Cynllunydd Goleuo Ceri James
Cynllunydd Sain Dyfan Jones
Cyfarwyddwr Cerdd Barnaby Southgate
Cyfarwyddwr Corfforol Eddie Ladd
Cyfarwyddwr Corfforol Cynorthwyol Deborah Light
Canllaw oed: 11+
Nyrsys
gan Bethan Marlow
Caneuon gan Rhys Taylor a Bethan Marlow
Syniad gwreiddiol gan Sara Lloyd a Bethan Marlow