Beth sy’n digwydd pan chi’n cyfuno Dawnsfa a Theatr? Neu pan mae chwedlau hudolus y gorffennol yn cyfarfod perfformwyr chwedlonol heddiw?
Fel rhan o gydweithio cyffrous rhwng Cymuned Dawnsfa Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, bydd Kiki Cymraeg yn cynnwys perfformiadau gair llafar gan yr artistiaid Lauren Morais, Nina Bowers a Leo Drayton, sy’n archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn cwiar yng Nghymru heddiw.
Dan gyfarwyddyd Duncan Hallis a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Gen, Steffan Donnelly, bydd Llais Cymru, Kwabena 007, yn arwain y noson a bydd perfformiadau gan aelodau Cymuned Dawnsfa Cymru, yn cynnwys Leighton Rees Milan, Supreme Milan, Opulence Milan a Hollywood 007, ochr yn ochr â DJ Raven 007.
Canllaw oed: 14+
Yn cynnwys iaith gref a themau aeddfed, cyfeiriadau at trawsffobia a chywilyddio corfforol, niwl ('haze') a goleuadau'n fflachio.
Dyddiadau’r Daith
-
28 Maw 20248pmPerfformiad SgratshTheatr y Sherman
Cyflwynydd
Kwabena 007
Awduron / Perfformwyr
Lauren Morais, Nina Bowers + Leo Drayton
Perfformwyr Cymuned Dawnsfa Cymru
Leighton Rees Milan
Supreme Milan
Opulence Milan
Hollywood 007
DJ
Raven 007
Awduron
Lauren Morais, Nina Bowers + Leo Drayton
Cyfarwyddwyr
Duncan Hallis + Steffan Donnelly
Delwedd Marchnata
Myths + Tits