★★★★ "Theatr Genedlaethol Cymru has given us hope for a better theatrical future for Wales, and now it’s giving us hope for a more empathetic and kind one too." Buzz Magazine
"Gogoneddus oedd clywed pobl ifanc yn siarad yn groyw... yn ddewr a gyda gonestrwydd." BBC Radio Cymru
"[Eleri Morgan is] a warm and empathetic performer" The Welsh Agenda
"Archwiliad doniol, heriol a phwysig o gydsyniad ... nid yw’n or-ddrwm, or-ffraeth nag or-ddifrifol – mae’n berffaith!" Arts Scene Wales
---
Mae dau berson ifanc yn ffansio’i gilydd. Mae ‘na ddau arall sy’n ffansio’i gilydd hefyd.
Mae’r ddau bâr yn dilyn llwybrau eithaf tebyg wrth i’w perthynas ddatblygu.
Tan i brofiad un fynd i gyfeiriad hollol wahanol.
---
Mae Ie Ie Ie yn ddarn pwysig o theatr am brofiadau bywyd go iawn pobl ifanc heddiw.
Yn cynnwys perfformiad unigol arbennig gan y comediwr Eleri Morgan a chyfweliadau gonest gyda phobl ifanc Cymru, mae Ie Ie Ie yn ceisio newid y naratif o gwmpas cyd-synio.
Mewn perfformiad sy'n teimlo fel sgwrs agored, mae Ie Ie Ie yn archwilio perthnasau iach, chwant a chaniatâd mewn ffordd feddylgar a chwareus.
Gan gofleidio grym perfformiad byw, mae Ie Ie Ie yn ein tywys i feddwl yn ddwfn amdanom ein hunain ac ein perthynas gydag eraill ac yn annog y gynulleidfa i ymateb a chymryd rhan yn ystod y sioe.
Wedi'i gyfarwyddo gan Juliette Manon, mae Ie Ie Ie yn addasiad Cymraeg o Yes Yes Yes; sioe fyw arobryn gan y gwneuthurwyr theatr o Aotearoa/Seland Newydd, Karin McCracken ac Eleanor Bishop.
Wrth ddatblygu’r cynhyrchiad a gweithio gyda’r cyfranogwyr ifanc ar draws y wlad, mae’r cwmni wedi derbyn hyfforddiant a chefnogaeth ymgynghorol gan y mudiad Brook Cymru, elusen iechyd rhywiol i bobl ifanc. Gallwch ddysgu mwy am waith Brook ar y wefan, brook.org.uk.
Am ddim gyda thocyn i'r Maes
Canllaw oed 14+
Yn cynnwys iaith gref, themau aeddfed a thrafodaethau am rhyw, pornograffi, ymosodiadau rhywiol a thrais.
Mae cymorth pellach ar gael trwy wefan Brook.
Dyddiadau’r Daith
-
31 Mai 202413.30Perfformiad bywYr Arddorfa, Eisteddfod yr Urdd
Eleri Morgan (hi)
Gan Eleanor Bishop a Karin McCrack
Cyfarwyddwr Juliette Manon (nhw)
Awdur yr Addasiad Cymraeg Lily Beau (hi)
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Enfys Clara (nhw)
Mewn cydweithrediad ag Aurora Nova
Comisiynwyd Ie Ie Ie yn wreiddiol gan Auckland Live
Delwedd a Dylunio Graffeg Kelly King Design
Fideos
Rhaglen Ddigidol
Pecyn Addysg
-
Eleri Morgan
-
Juliette Manon
-
Lily Beau
-
Enfys Clara