Huw Fyw

Dyma stori wir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i’r Huw arall yn y pentra’ farw yn yr Ail Ryfel Byd.

“Paid byth â trio dy ora, cofia hynna, ella neith o safio dy fywyd di.”

Dyma stori wir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i’r Huw arall yn y pentra’ farw yn yr Ail Ryfel Byd.

Dydi Huw Fyw ddim yn coelio mewn ffawd. A dydi o ddim yn coelio mewn gwenu chwaith… na gwastraff nac unrhyw beth sy’n gofyn iddo godi o’i gadair. Ond ar ôl tro lwcus, mae Huw yn cychwyn ar antur fythgofiadwy o’i bentra’ bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw, heb anghofio’r gorffennol.

80 mlynedd ers i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, dyma ddrama lwyfan newydd gan Tudur Owen am obaith, diogi a sut mae ’neud 4 paned gydag un bag te! Yn ei ddrama gyntaf i’r llwyfan, bydd Tudur hefyd yn serennu fel Huw Fyw, ochr yn ochr ag Owen AlunDafydd Emyr a Lois Meleri Jones, gyda chyfarwyddo gan Steffan Donnelly

Gyda chefnogaeth Galeri Caernarfon

Canllaw Oed: 11+

Yn cynnwys iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at ryfel, cyffuriau, euogrwydd goroesi ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Mae rhagor o wybodaeth am gynnwys y cynhyrchiad ar y ddolen isod: 

Gwybodaeth Cynulleidfa Huw Fyw

Dyddiadau’r Daith

Cast

Huw Fyw Tudur Owen

Wendy Lois Meleri Jones

Twm Teciall Dafydd Emyr 

Dylan Owen Alun

Tîm Creadigol

Awdur Tudur Owen

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Cynllunydd Set a Gwisgoedd Elin Steele 

Cynllunydd Goleuo Elanor Higgins 

Cynllunydd Sain Alexander Comana 

Clodrestr

Ffotograffiaeth Mefus Photography 

Dylunio Graffeg Kelly King