Ha/Ha

Pontypridd! Ymunwch â ni i ddeffro'r hwyl... i atgyfodi comedi… I ATGYFOMEDI!

Dydyn ni gyd angen rhywbeth i godi calon…?

Pontypridd! Ymunwch â ni i ddeffro'r hwyl... i atgyfodi comedi… I ATGYFOMEDI!

Dramodwyr digri, cast penigamp ac awr wyllt o lol a laffs gan Theatr Gen a Theatr Clwyd!

Sgwennu newydd sbon gan Caryl Burke, Mari Elen Jones, Geraint Lewis a Gruffydd Ywain.

Yn serennu Dion Davies, Caitlin Drake, Lowri Gwynne, Leilah Hughes, Dewi Wykes a Barnaby Southgate

Cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd

D.I.N.K.s
gan Caryl Burke 
Wrth aros am ganlyniad prawf beichiogrwydd, mae Mared a Twm – cwpwl sy’n ymfalchïo yn eu statws fel D.I.N.K.s (dual income, no kids) – yn trafod os ydyn nhw’n barod i ddod â bywyd bach newydd i’r byd... 

Byd Donna Tan y Pandy
gan Geraint Lewis 
Wrth i’r Eisteddfod gychwyn, mae Donna (perchennog y lle tanio lleol, Tan y Pandy) yn ymweld ag adfeilion y Forwyn Fair i weddïo am wythnos lwyddiannus i’w busnes. Tra bod hi ‘na, mae’n cwrdd â’r bardd di-nod, Moelwyn, ac mae’r ddau yn cael eu trawsnewid am byth... 

Maes o Law 
gan Gruffydd Ywain
Mae’n ddiwrnod y cadeirio yn yr Eisteddfod ac mae trefnwyr y Brifwyl wrth eu boddau gyda llwyddiannau’r wythnos. Ond gyda bardd newydd i’w gadeirio a gwestai arbennig iawn ar y ffordd i’r Maes, mae pethau’n 
dechrau mynd ar chwâl... 

Ffrindiau’r Ysgol 
gan Mari Elen Jones 
Yn dilyn cyfarfod pwyllgor, mae grŵp o rhieni yn mynd yn sownd yn y neuadd ysgol. Ar ôl agor potel jin y raffl, mae tensiynau ymhlith y criw yn codi ac mae’r sefyllfa’n mynd yn fwy a fwy gwirion...

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Am ddim gyda thocyn i'r Maes

Canllaw Oed: 16+ 
Yn cynnwys themâu aeddfed ac iaith gref

Dyddiadau’r Daith

  • 06 Awst 2024
    17.00
    Perfformiad byw
    Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024
  • 07 Awst 2024
    17.00
    Perfformiad byw
    Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024
  • 08 Awst 2024
    17.00
    Perfformiad byw
    Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024
Cast

Caitlin Drake

Dion Davies

Lowri Gwynne

Leilah Hughes

Dewi Wykes 

Tîm Creadigol

Dramodwyr Caryl Burke, Mari Elen Jones, Geraint Lewis a Gruffydd Ywain

Awdur y Rhagarweiniad Hannah Daniel

Cyfarwyddwyr Rhian Blythe a Steffan Donnelly

Cyfarwyddwr Creadigol ar ran Theatr Clwyd Daniel Lloyd

Cerddor a Chyfansoddwr Barnaby Southgate

Cynllunydd Liv Jones 

Cyfarwyddwr Symud Jess Williams