Nid asyn cyffredin ’mo Ari; cafodd ei magu ar aelwyd glyd gan hen wraig garedig. Ond â hithau bellach yn byw mewn gwarchodfa asynnod rhywle yng Ngorllewin Cymru, mae hi’n dyheu am gael byw eto ymhlith pobl. Ar ôl iddi gael ei chludo i gartref newydd arall, mae cyfeillgarwch annisgwyl yn tyfu rhyngddi hi a rebel o asyn afreolus, ac yn sydyn daw’n ymwybodol o’i chaethiwed.
Cyflwynwyd Gwlad yr Asyn yn wreiddiol yn ystod haf 2021, fel cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru ac Os Nad Nawr. Mae'r dramodydd Wyn Mason, cyd-sylfaenydd Os Nad Nawr, yn hanu o Geredigion ac roedd wrth ei fodd i gael rhannu'r cynhyrchiad hwyliog hwn yng Ngheredigion.
Wrth baratoi ar gyfer ail-lwyfannu'r cynhyrchiad nol yn 2022, meddai Wyn Mason:
"Dw i wrth fy modd y bydd y ddrama o'r diwedd yn cael ei llwyfannu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron: dyna oedd y cynllun gwreiddiol. Dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer y stori, ddim yn bell o Aberystwyth, lle mae asynnod yn darparu reidiau ar hyd y traeth, ac o fewn golwg i fryniau Pumlumon, lle hoffen nhw ddianc! Dw i’n edrych ymlaen at weld sut bydd llwyfannu’r ddrama yn Theatr y Maes, lleoliad dan do, yn newid naws y sioe, o gymharu â pherfformiadau awyr agored haf diwethaf."
Cyfarwyddwyd y ddrama gan Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru. Hwn oedd ei gynhyrchiad cyntaf yn ei swydd newydd ac roedd wrth ei fodd i weithio unwaith eto gyda'r actor Gwenllian Higginson (Merched Caerdydd, Macbeth, Enid a Lucy, 35 Diwrnod) a’r cyfansoddwyr a’r cerddorion Sam Humphreys a Bethan Rhiannon, o'r band gwerin adnabyddus Calan. Dywedodd Steffan;
‘Roedd croesawu cynulleidfaoedd yn ôl am y tro cyntaf ers cychwyn y pandemig efo Gwlad yr Asyn yn 2021 yn brofiad gwefreiddiol. Dw i mor falch bod cyfle arall i weld y ddrama hon yng nghanol bwrlwm y Steddfod. Dewch i brofi gwledd o gerddoriaeth electro-gwerin byw, awr o stori alegorïol llawn dychymyg a doniolwch, a pherfformiad hudolus Gwenllian Higginson.’
Dyddiadau’r Daith
-
30 Gorff 202218:00Perfformiad bywTheatr y Maes
-
01 Awst 202218:00Perfformiad bywTheatr y maes
-
02 Awst 202218:00Perfformiad bywTheatr y Maes
-
03 Awst 202214:00Perfformiad bywTheatr y Maes
-
03 Awst 202218:00Perfformiad bywTheatr y Maes
Ari Gwenllian Higginson
Cerddorion a Chyfansoddwyr: Bethan Rhiannon a Sam Humphreys
Awdur: Wyn Mason
Cyfarwyddwr: Steffan Donnelly
Cyfansoddwyr a Chynllunwyr Sain: Sam Humphreys + Bethan Rhiannon
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Carl Davies
Ymgynghorydd Goleuo: Ceri James
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Rhian Blythe
Cyfarwyddwr Symud: Matthew Gough
Dramatwrg: Mary Davies
Awdur Sibrwd: Chris Harris
Gweithredydd Sibrwd: Martha Davies
Llais Sibrwd: Annes Elwy
Rheolwr Cynhyrchu: Dyfan Rhys
Rheolwr Llwyfan: Lisa Briddon
Dirprwy Reolwr Llwyfan: Ffion Rebecca Evans
Rheolwr Llwyfan Technegol a Pheiriannydd Sain: Dan Jones
Technegydd Ar Daith: Carwyn Williams
Adeiladwyr y Set: Carl Davies + Laurah Martin
Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain: Cathryn McShane
Canllaw oed: 13+