Noson allan. Cyfarfod rhywun ar hap. Ond dyma stori gariad sydd ar ben cyn iddi gychwyn.
Mae Greta allan hefo’i ffrindiau pan mae’n cyfarfod y Faust digywilydd. Pan mae grymoedd tywyll ar waith, mae ´chydig o fflyrtio diniwed yn gychwyn ar siwrne ddinistriol ddi-droi’n-ôl.
Mae Faust + Greta yn stori gariad drasig sy’n dod â’r clasur Almaeneg yn fyw o’r newydd mewn gweledigaeth feiddgar o’r Gymru gyfoes. Wedi’i ddyfeisio a’i berfformio gan ensemble o bobl ifanc wrth ddod allan o’r cyfnod clo, mae’r cynhyrchiad theatr digidol hwn yn ymdrin â’r obsesiwn dynol gyda’r angen cyson am fwy, bod â’r llaw uchaf, a gwthio’r ffiniau i’r eithaf.
Wedi’i ysbrydoli gan drosiad Cymraeg T. Gwynn Jones o waith gwreiddiol Goethe, bydd Faust + Greta yn cofleidio’r cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol i gynnig profiad theatr o fath newydd sy’n arbrofol ac yn annisgwyl. Wedi’i lwyfannu mewn theatr wag, mae byd twyll a thwyllodrus, a phrofiadau newydd, yn aros amdanoch. Pa mor bell allwn ni eich temtio?
Canllaw oed: 14 +
Yn cynnwys iaith gref, themâu oedolion a goleuadau sy'n fflachio.
Faust Llion Williams
Greta Sian Owens
Ensemble:
Lleucu Gwawr
Christie Hallam-Rudd
Elliw Jones
Beth Robinson
Cedron Sion
Amy Warrington
Rebecca Naiga Williams
Cyfarwyddwyr Nia Lynn + Gethin Evans
Cynllunydd Set a Gwisgoedd Elin Steele
Cynllunydd Golau Ceri James
Cynllunydd Sain Sam Jones
Cyfarwyddwr Fideo Nico Dafydd