Estron
gan Hefin Robinson
Mae digwyddiadau ysgytwol diweddar wedi troi byd Alun ben i waered, ond yn y tywyllwch mae’n ceisio cysur gan ymwelydd o fyd arall.
Drama newydd amgen ar gyfer y genhedlaeth hon gan un o’n hawduron ifanc mwyaf disglair, ac enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, 2016. Llwyfannwyd Estron am y tro cyntaf yn y Cwt Drama, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017. Dyma gyfle prin i weld gwaith buddugol y Fedal Ddrama ar daith genedlaethol.
“Ro’n i’n ddagrau i gyd, a gwên lydan ar fy ngwep, pan saethais ar fy nhraed ar ei diwedd . . . Dyma ddrama bwerus . . . y mae’n rhaid ei phrofi.” Lowri Cooke
Cast:
Gareth Elis (Alun)
Ceri Elen (Han)
Iwan Garmon (eilydd – Alun)
Elin Llwyd (eilydd – Han)
Cyfarwyddwr: Janet Aethwy.
Sgyrsiau cyn ac ar ôl taith Estron
Isod ceir rhestr o sgyrsiau cyn ac ôl sioe taith Estron.
Theatr y Glowyr, Rhydaman:
- Sgwrs wedi’r sioe 19 Ebrill
Pontio, Bangor:
- Sgwrs i ddysgwyr cyn y sioe, 8 Mai
Canolfan Morlan, Aberystwyth:
- Sgwrs wedi’r sioe, 9 Mai
Chapter, Caerdydd:
- Sgwrs i ddysgwyr cyn sioe, 14 Mai
- Sgwrs wedi’r sioe, 15 Mai
Galeri, Caernarfon:
- Sgwrs wedi’r sioe, 19 Mai