Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau

Whwsh... Bant â ni! Sioe gerdd hudolus newydd gan Mererid Hopwood, gyda cherddoriaeth gan Seiriol Davies.

Mae pawb yn gyffro i gyd ar ddiwrnod cynta’r tymor yn Ysgol Gwaelod y Garn. Ond mae’r plant ar fin cael newyddion drwg... mae’r ysgol yn mynd i GAU!
 
Wrth i Alfred, Elen a’u ffrindiau geisio meddwl am ffordd o achub eu hysgol fach, mae athrawes newydd a braidd yn llym yr olwg yn cyrraedd: Miss Prydderch. Ond cyn hir, daw hi’n amlwg ei bod hi’n athrawes anghyffredin o arbennig. Os gall unrhyw un helpu’r plant i achub yr ysgol, Miss Prydderch yw’r un! 
 
Mewn sioe sy’n llawn dop o ddireidi, dychymyg a cherddoriaeth, cewch deithio gyda dosbarth Miss Prydderch ar antur fythgofiadwy lle mae’r ffrindiau’n trechu eu hofnau a darganfod pwysigrwydd codi eu lleisiau. 
 
Dyma sioe gerdd hudolus newydd sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau’r gyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript newydd sbon gan Mererid Hopwood, a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies.

Whwsh! Bant â ni!

Cynhyrchiad Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Theatr Arad Goch. 

Mae'r cynhyrchiad hwn wedi'i lwyfannu mewn partneriaeth â'r Egin, a oedd yn gyfrifol am yr ymchwil a'r datblygiad cychwynnol ar gyfer y cynhyrchiad gyda chymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Canllaw Oed: 7+

Dyddiadau’r Daith

Cast

I'w gyhoeddi'n fuan

Tîm Creadigol

Awdur Mererid Hopwood

Cyfansoddwr Seiriol Davies 

Cyfarwyddwr Ffion Wyn Bowen 

Cyfarwyddwr Cyswllt Steffan Donnelly 

Cynllunydd Set a Gwisgoedd Cai Dyfan 

Cynllunydd Goleuo Cara Hood 

Coreograffydd Cêt Haf 

Cyfarwyddwr Cerdd Lynwen Haf Roberts 

Cynllunydd Sain dyth Crawford 

Cynhyrchydd Cerdd Steffan Rhys Williams