Deffro'r Gwanwyn (Addasiad Cymraeg o 'Spring Awakening'
Llyfr a geiriau gan Steven Sater
Cerddoriaeth gan Duncan Sheik
Mae Melchior wedi cael digon o’r celwydd, Moritz yn cael ei boenydio gan freuddwydion brwnt, a Wendla bron â marw eisiau deall y gwir am fabis.
Mewn byd lle mae ar yr oedolion ofn wynebu’r gwir, mae Melchior yn herio’r system gyda chanlyniadau brawychus a bythgofiadwy.
Dyma addasiad Cymraeg Dafydd James o’r sioe gerdd roc wefreiddiol ‘Spring Awakening’. Ers iddi agor am y tro cyntaf ar Broadway yn 2006, derbyniwyd canmoliaeth fyd-eang iddi ac enillodd llu o wobrau, gan gynnwys Gwobrau Tony ac Olivier.
Mae’r sioe, sy’n seiliedig ar ddrama ddadleuol Frank Wedekind, yn ymdrin â gormes rhywiol ac yn cael ei hadrodd mewn ffordd onest a miniog fydd yn siŵr o ysgogi trafodaeth.
Aeth Deffro’r Gwanwyn ar ddwy daith yng Nghymru, yn 2010 ac yn 2011.
2010:
Ffion Dafis
Zoë George
Owain Gwynn
Iddon Jones
Daniel Lloyd
Elain Lloyd
Ellen Ceri Lloyd
Elin Llwyd
Berwyn Pearce
Aled Pedrick
Lynwen Haf Roberts
Dyfed Thomas
Meilir Rhys Williams
2011:
Iddon Jones
Zoë George
Ellen Ceri Lloyd
Elain Lloyd
Elin Llwyd
Berwyn Pearce
Meilir Rhys Williams
Aled Pedrick
Nia Ann
Victoria Pugh
Tomos Eames
Siôn Ifan
Dyfed Thomas
Cyfieithiad gan: Dafydd James
Cyfarwyddwr: Elen Bowman
Cyfarwyddwr Cerdd: Dyfan Jones
Yn cynnwys iaith gref a themau sy'n anaddas i blant.