Dawns y Ceirw (Taith Japan)

Ar ôl swyno cynulleidfaoedd ledled Cymru, mae Dawns y Ceirw nôl... y tro hwn yn Japan!

Mae hi'n noson oer y gaeaf ac mae Carw yn chwarae ar ei ben ei hun yn yr eira, yn hiraethu am ychydig o gynhesrwydd a charedigrwydd. 

Yn sydyn, mae golau bach disglair yn ymddangos! Er nad yw wedi mentro’n bell o’i bentref o’r blaen, mae Carw’n penderfynu dilyn y golau bach disglair ar antur hudolus trwy’r goedwig lle mae’n darganfod y cryfder a’r cariad sydd yn ei galon ei hun. 

Ar ôl swyno cynulleidfaoedd ledled Cymru, mae'r stori hudolus hon yn dychwelyd am adfywiad arbennig iawn – ac mae’n teithio ymhellach nag erioed o'r blaen! Mae Dawns y Ceirw yn mynd i Japan, gan ddod â chelfyddydau a diwylliant yr iaith Gymraeg i gynulleidfa ryngwladol newydd. 

Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Casi Wyn (Bardd Plant Cymru 2022-23), ochr yn ochr â'r dawnswyr Osian Meilir a Ruby Portus, mae'r cynhyrchiad hudolus hwn yn cyfuno cerddoriaeth, symud a dychymyg mewn stori gynnes am gyfeillgarwch a gobaith. 

Cynhyrchiad Theatr Cymru, gyda chefnogaeth Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Tŷ Cerdd. 

Perfformiad mewn Japaneg a Chymraeg

Canllaw Oedran: plant 5-9 oed a'u teuluoedd

Hyd y perfformiad: 30 munud

Cast

Casi Wyn

Osian Meilir

Ruby Portus

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly 
Cyd-gyfarwyddwr Matthew William Robinson 
Awdur + cerddoriaeth gwreiddiol Casi Wyn 
Cynllunydd Sain Alex Comana 
Cynllunydd Set a Gwisgoedd Tomás Palmer 
Cynllunydd Goleuo Gwreiddiol Joshie Harriette  
Ail-oleuydd Elanor Higgins  
Rheolwr Llwyfan Technegol Tom Naylor

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd ap mynediad iaith arloesol Theatr Cymru, Sibrwd, yn darparu capsiynau caeedig Japaneg mewn amser go iawn yn ystod perfformiadau, drwy ffonau clyfar aelodau'r gynulleidfa.

Bydd y cynhyrchiad hefyd yn cynnwys rhywfaint o storïo mewn Japaneg, wrth i gyfieithiad hyfryd gan Miki Yamazaki gael ei leisio gan Susan Hingley.

Clodrestr

Ffotograffydd Jorge Lizalde

Dylunio Graffeg Kelly King