Dawns y Ceirw

Cyd-gynhyrchiad gaeafol newydd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Mae’n Noswyl Nadolig ac mae pobl y pentref yn swatio’n gynnes yn eu cartrefi. Does neb yn sylwi ar y carw bach unig tu allan yn yr oerfel...

Wrth chwarae ar ben ei hun bach yn yr eira, mae Carw yn ysu am gynhesrwydd a charedigrwydd. Yn sydyn, mae golau bach disglair yn ymddangos! Er nad yw wedi mentro’n bell o’i bentref o’r blaen, mae Carw’n penderfynu dilyn y golau bach disglair ar antur hudolus trwy’r goedwig lle mae’n darganfod y cryfder a’r cariad sydd yn ei galon ei hun.

Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Casi Wyn (Bardd Plant Cymru 2022-23), bydd y sioe newydd swynol hon yn dod â hud, cerddoriaeth a dawns i gynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru y gaeaf hwn.

Cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Gyda chefnogaeth gan Tŷ Cerdd.

Canllaw Oed: plant 5-9 oed a'u teuluoedd 

Hyd y perfformiad: tua 45 munud

Dyddiadau’r Daith

Cast

Casi Wyn

Osian Meilir

Sarah 'Riz' Golden

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Cyfarwyddwr Matthew William Robinson

Awdur + Cerddoriaeth wreiddiol Casi Wyn

Dylunydd Set a Gwisgoedd Tomás Palmer