Sioe gerdd gyfoes wreiddiol gan Caryl Parry Jones, Non Parry, Elan a Miriam Isaac a fydd yn taflu goleuni newydd ar glasuron Caryl ac yn dathlu y wledd o ganeuon a gyfansoddwyd ganddi ar hyd y degawdau.
Mae plasdy, Cae’r Lonydd wedi gweld dyddiau gwell. Dod â bywyd newydd i'r lle ydy her y criw ifanc sydd wedi eu taflu at ei gilydd. Ond er gwaetha'r amheuon a thrwy wên a dagrau, chwerthin a dygnwch, efallai bod peledr o obaith a chyfle iddyn nhw brofi eu haf gorau erioed. Nes i ymwelydd arall gyrraedd Cae’r Lonydd i gynhyrfu'r dyfroedd ac i osod yr her fwyaf un...
Cwmni Theatr yr Urdd mewn cydweithrediad a Theatr Cymru.
Oedran: 11+
Bydd dehongliad BSL ar gael yn ystod rhai perfformiadau.
Dyddiadau’r Daith
-
27 Awst 20267:30pmPerfformiad bywTheatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
-
28 Awst 20267:30pmPerfformiad bywTheatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
-
29 Awst 20262pmPerfformiad bywTheatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
-
29 Awst 20267:30pmPerfformiad bywTheatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Ysgrifennwyd gan Caryl Parry Jones a Non Parry, gydag Elan Isaac ac Miriam Isaac.
Cyfarwyddwr: Rhian Blythe
Cyfarwyddwr Symud a Choreograffydd: Elan Isaac
Cyfarwyddwr Llais: Miriam Isaac
Cyfarwyddwr Cerdd: Math Roberts
Cynhyrchydd: Branwen Davies