"Dyma'r ddrama orau dwi wedi gweld ers tro byd."
BBC Radio Cymru
Dyma Fi: hogan pentra' efo gwallt spikes a BMX, yn ffansio genod ond cogio bod yn strêt; yn disgyn mewn cariad efo dynas ar cae rygbi ond cheith hi’m deud wrth neb bod hi’n disgyn mewn i'w gwely; mynd i Llundan i fod yn lesbian mewn byd lesbian yn caru bob lesbian eiliad... nes bod hi ddim.
Wrth i Fi fynd â ni ar daith o’i bywyd carwriaethol - y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a’r tor-calon blêr - mae'n dod i ddeall cymhlethdodau byw'n driw i'w hun wrth dyfu fyny fel tomboy yn y nawdegau.
Yn dilyn ymateb gwefreiddiol i’r perfformiadau cychwynnol yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024, bydd Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow yn mynd ar daith fel rhan o ddathliadau mis Pride ym mis Mehefin. Y cyntaf o’i fath, dyma fonolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd, wedi’i gyfarwyddo gan Rhiannon Mair ac yn serennu Lowri Morgan.
Datblygwyd yn wreiddiol gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru a pherfformiwyd yn wreiddiol ym Mhontypridd 2024.
Canllaw Oed: 16+
Yn cynnwys goleuadau'n fflachio, synau uchel, iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at drais rhywiol
Fi Lowri Morgan
Awdur Bethan Marlow
Cyfarwyddwr Rhiannon Mair
Cynllunydd Liv Jones
Cynllunydd Goleuo Cara Hood
Cynllunydd Sain Josh Bowles
Cyfarwyddwr Corfforol Cêt Haf
Ffotograffiaeth Mefus Photography
Dylunio Graffeg Kelly King