Brên. Calon. Fi

Monolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd gan un o ddramodwyr gorau Cymru

‘Dwi jysd yn keen. Generally, mewn bywyd. Lot rhy keen actually.’

Dyma Fi: hogan pentra' efo gwallt spikes a BMX, yn ffansio genod ond cogio bod yn strêt; yn disgyn mewn cariad efo dynas ar cae rygbi ond cheith hi’m deud wrth neb bod hi’n disgyn mewn i'w gwely; mynd i Llundan i fod yn lesbian mewn byd lesbian yn caru bob lesbian eiliad... nes bod hi ddim.  

Wrth i Fi fynd â ni ar daith o’i bywyd carwriaethol - y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a’r tor-calon blêr - mae'n dod i ddeall cymhlethdodau byw'n driw i'w hun wrth dyfu fyny fel tomboy yn y nawdegau.

Wedi'i ddewis fel un o Goreuon Theatr 2022 gan y Guardian, dyma fonolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd gan un o ddramodwyr gorau Cymru, Bethan Marlow, wedi’i gyfarwyddo gan Rhiannon Mair.

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Comisiynwyd Brên. Calon. Fi yn wreiddiol gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru i'w berfformio yn Nhregaron 2022. Wedi'i ariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd Sibrwd - ein ap mynediad iaith - ar gael i gefnogi'r gynulleidfa ym mhob perfformiad.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 

Am ddim gyda thocyn i'r Maes 

Canllaw Oed: 16+
Yn cynnwys goleuadau'n fflachio, synau uchel, iaith gref, themâu aeddfed a chyfeiriadau at drais rhywiol

Dyddiadau’r Daith

  • 06 Awst 2024
    16.00
    Perfformiad byw
    YMa, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024
  • 07 Awst 2024
    16.00
    Perfformiad byw
    YMa, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024
  • 08 Awst 2024
    16.00
    Perfformiad byw
    YMa, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024
  • 09 Awst 2024
    16.00
    Perfformiad byw
    YMa, Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024
Cast

Fi Lowri Morgan

Tîm Creadigol

Dramodydd Bethan Marlow

Cyfarwyddwr Rhiannon Mair

Cynllunydd Liv Jones

Cynllunydd Goleuo Cara Hood

Cynllunydd Sain Josh Bowles

Cyfarwyddwr Corfforol Cêt Haf

Clodrestr

Darlun Katie Gehrke 

Dylunio Graffeg Kelly King