Adloniant rhagorol i blant 3-6 oed.
Mae angen i bopeth fod yn berffaith, yn enwedig pan wyt ti’n dywysoges! Ac yn Nhre Melys, mae’n rhaid cael tri pheth perffaith er mwyn bod yn hapus – gwisg berffaith, coron berffaith a swyndlws perffaith. Dyna mae Biwti a’i Thad yn meddwl, beth bynnag. Pan mae Biwti’n cyfarfod Brogs, broga bach direidus, mae hi’n dechrau dysgu bod yna lawer o wahanol fathau o berffaith ac yn darganfod beth yw cyfrinach hapusrwydd go iawn.
Yn llawn dop â chaneuon, chwerthin a hwyl, mae’r hyfryd Biwti a Brogs gan Gwawr Loader yn ail-ddychmygu stori glasurol y Brodyr Grimm. Ymunwch â ni ar gyfer y sioe hudol a swynol hon, a berfformir mewn lleoliad anffurfiol. Y cyflwyniad delfrydol i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed.
Cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr y Sherman a Theatr Cymru.
Canllaw Oed: plant 3-6 oed a'u teuluoedd
Hyd: tua 60 munud.
Dyddiadau’r Daith
-
20 Ion 202613:00Perfformiad CymraegGaleri Caernarfon
-
20 Ion 202617:00Perfformiad CymraegGaleri Caernarfon
-
22 Ion 202611:00Perfformiad CymraegNeuadd Dwyfor, Pwllheli
-
22 Ion 202613:00Perfformiad CymraegNeuadd Dwyfor, Pwllheli
-
23 Ion 202611:00Perfformiad CymraegTheatr Felinfach, Dyffryn Aeron
-
23 Ion 202613:00Perfformiad CymraegTheatr Felinfach, Dyffryn Aeron
-
26 Ion 202610:00Perfformiad CymraegNeuadd San Pedr, Caerfyrddin
-
30 Ion 202610:00Perfformiad CymraegPontio Bangor
-
30 Ion 202613:00Perfformiad CymraegPontio Bangor
-
31 Ion 202611:00Perfformiad CymraegPontio Bangor
-
31 Ion 202613:00Perfformiad CymraegPontio Bangor
Anni Dafydd
Owen Alun
Awdur Gwawr Loader
Cyfarwyddwr Elin Phillips
Cynllunydd Set a Gwisgoedd Carl Davies
Cynllunydd Goleuo Ceri James
Cyfansoddwr Lucy Rivers
Cynllunydd Sain Josh Bowles
Cyfarwyddwr Cynorthwyol James Ifan
-
Owen Alun
-
Anni Dafydd
Pecyn Adnoddau
Rydym wedi paratoi Pecyn Adnoddau Biwti a Brogs sydd ar gael i’w lawrlwytho isod. Mae’r pecyn hwn ar gael i athrawon fydd yn dod â phlant i wylio Biwti a Brogs yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr 2025, a mis Ionawr 2026, mewn theatrau a chanolfannau dros Gymru. Bwriad yr adnodd yw hybu athrawon i drafod naratif, cymeriadau a themâu’r ddrama Biwti a Brogs yn yr ystafell ddosbarth cyn neu ar ôl eu hymweliad â’r theatr.