Anfamol
gan Rhiannon Boyle
"Ella dwi’n rhy ffysi. Ond dwi jest rioed ’di ffeindio ‘Yr Un.’ I fod yn onest, dwi’n ffeindio dynion yn rili, rili annoying.”
Croeso i fyd Ani. Ffeminist, cyfreithwraig, chwaer, modryb, merch. A mam.
Er yn sengl, ac er gwaethaf barn ei theulu, mae Ani’n penderfynu defnyddio sperm bank i gael babi. Efallai mai dyma beth sydd ei angen i ddod â’i theulu cymhleth yn ôl at ei gilydd!
Ond yna mae’r pandemig yn taro. Yn fam newydd, sengl, mae Ani’n sydyn yn gaeth i’w chartref efo babi sy’n crïo’n ddi-baid, ac mae ei bywyd wedi dod i stop. Mae bellach yn boddi mewn byd llawn Peppa Pinc a fformiwla, ac mae’n cyfri’r oriau nes bydd hi’n ‘gwin o’r gloch’. ’Tydi bod yn riant ddim yr hyn roedd hi’n ei ddisgwyl o gwbl.
Drama newydd, ddoniol a thyner gan Rhiannon Boyle am hunaniaeth, colled, cariad a pherthyn, ac am fod yn fam ac yn riant sengl yn y byd sydd ohoni.
Dyddiadau’r Daith
-
29 Medi 20217:30pmPerfformiad bywTheatr Sherman, Caerdydd
-
30 Medi 20217:30pmPerfformiad byw (BSL)Theatr Sherman, Caerdydd
-
01 Hyd 20217:30pmPerfformiad byw (Sgwrs ôl sioe)Theatr Sherman, Caerdydd
-
02 Hyd 20217:30pmPerfformiad bywTheatr Sherman, Caerdydd
-
05 Hyd 20217:30pmPerfformiad bywCanolfan Celfyddydau Aberystwyth
-
06 Hyd 20217:30pmPerfformiad bywCanolfan Celfyddydau Aberystwyth
-
08 Hyd 20217:30pmPerfformiad bywPontio Bangor
-
09 Hyd 20217:30pmPerfformiad bywPontio Bangor
-
12 Hyd 20217:30pmPerfformiad bywTheatr Mwldan, Aberteifi
-
14 Hyd 20217:30pmPerfformiad bywFfwrnes Llanelli
-
16 Hyd 20217:30pmPerfformiad bywTaliesin Abertawe
-
19 Hyd 20217:30pmPerfformiad bywStiwt Llanerchrugog
-
21 Hyd 20217:30pmPerfformiad byw (BSL)Galeri Caernarfon
-
22 Hyd 202114:30Perfformiad bywGaleri, Caernarfon
-
22 Hyd 20217:30pmPerfformiad bywGaleri Caernarfon
Ani: Bethan Ellis Owen
Eilydd: Gwawr Loader
Rhiannon Boyle: Dramodydd
Sara Lloyd: Cyfarwyddwr
Amy Jane Cook: Cynllunydd
Katy Morison: Cynllunydd Goleuo
Dyfan Jones: Cyfansoddi a Chynllunio Sain
Niamh O'Donnell a Tayla-Leigh Payne: Cynllunwyr Sain a Chyfansoddwyr dan hyfforddiant
Deborah Light: Cyfarwyddwr Corfforol
Nia Lynn: Cyfarwyddwr Llais
Juliette Manon Lewis: Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Lisa Briddon: Rheolwr Cynhyrchu a Rheolwr Llwyfan
Ceri James: Rheolwr y Cynhyrchiad
Ian Buchanan: Rheolwr y Cynhyrchiad dros dro
Ffion Evans: Dirprwy Reolwr Llwyfan
Carwyn Williams: Technegydd
Gareth Hughes: Ail-oleuydd
Christian Brown: Adeiladwr y Set
Technegol Ltd: Rheolwr Technegol y Daith
Cathryn McShane: Dehonglydd Iaith Arwyddo Prydain
Lowri Johnston: Marchnata
Kirsten Mcternan: Ffotograffydd
Elin Mannion: Recordio Digidol
Chris Harris: Cydlynydd a Dramatwrg Sibrwd
Martha Davies: Gweithredydd Sibrwd ar Daith
Canllaw oed: 14+
Yn cynnwys iaith gref, themâu sy’n addas i oedolion a materion dwys yn ymwneud â COVID-19 a allai beri gofid.
Ni allwn warantu y bydd unrhyw artist yn ymddangos ym mhob perfformiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth.
Am resymau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac a wnelo â’r sefyllfa barhaus parthed Covid-19 yn y gymuned, rydym wedi gorfod addasu elfennau sylweddol o’r cynhyrchiad hwn ar fyr rybudd.
Diolchwn i chi am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Cyflwynir Anfamol gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman.
Anfamol
Rhaglen Anfamol
Darllenwch gopi o raglen ‘Anfamol’ yma!