11/06/2025

Wrecslam! Cyhoeddi'r Awduron a'r Cast

Wrecslam Title Treatment

Mae Theatr Cymru a Theatr Clwyd yn falch iawn o gyhoeddi’r doniau ysgrifennu ac actio eithriadol y tu ôl i’w cyd-gynhyrchiad diweddaraf, Wrecslam!, fydd yn cael ei berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ym mis Awst eleni.

Yn dilyn galwad genedlaethol, y pedwar dramodydd llwyddiannus yw: Llyr Evans, Mirain Fflur, Llinos Gerallt a Mel Owen. Bydd y dramodwyr nawr yn dechrau ar raglen o ddosbarthiadau meistr a gweithdai dramatwrgol, gan ddatblygu eu syniadau’n bedair drama fer – pob un yn ymwneud â Wrecsam ei hun – fydd yn cael eu perfformio yng Nghaffi Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd Gruffydd Ywain – un o ddramodwyr Ha/Ha y llynedd – yn dychwelyd gyda rhagair ac epilog i ddod â’r pedair drama fer at ei gilydd.

O dan gyfarwyddyd Rhian Blythe o Theatr Cymru a Daniel Lloyd o Theatr Clwyd, mae’r cwmnïau wedi casglu ensemble dawnus a chyffrous o’r gogledd-ddwyrain er mwyn dod â’r dramâu i faes y Brifwyl. Ochr yn ochr â'r cyfansoddwr a'r cyfarwyddwr cerdd Barnaby Southgate, bydd Wrecslam! yn cynnwys perfformiadau gan Isabella Colby Browne (Cymrix, Gwlad! Gwlad!), Noel Davies (Rownd a Rownd), Caitlin Drake (Branwen: Dadeni) a Dewi Wykes (Petula, The Famous Five Musical). Bydd y set a'r gwisgoedd yn cael eu dylunio gan Livia Jones, gyda Jess Williams yn ymuno â'r tîm fel cyfarwyddwr symud.

Mae Wrecslam! yn barhad i bartneriaeth hirdymor rhwng Theatr Cymru a Theatr Clwyd, sydd â’r nod o ddatblygu a chynhyrchu gwaith byr Cymraeg newydd. Yn y gorffennol mae’r cwmnïau wedi cydweithio ar y papur newydd byw Rwan/Nawr yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, ac yna Ha/Ha ym mhrifwyl y llynedd.

Mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly, wrth ei fodd yn parhau â’r bartneriaeth gyda Theatr Clwyd er mwyn cynnig cyfleoedd datblygu newydd i awduron theatr Cymraeg: 

“Mae yna gyfoeth o dalent ysgrifennu newydd yng Nghymru ac mi fydd Wrecslam! yn dod â syniadau pum awdur gwych i ganol bwrlwm yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae creu gwaith newydd yn Gymraeg yn flaenoriaeth i Theatr Cymru ac i Theatr Clwyd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael cydweithio am y drydedd flwyddyn yn olynol ar y model ysgrifennu newydd yma. Dw i'n edrych ymlaen at gael gweld y cast a'r tîm creadigol bendigedig yma’n creu noson ddyfeisgar ac ysbrydoledig o waith newydd yn Wrecsam.”

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar garreg eu drws eleni, mae Theatr Clwyd hefyd yn falch o gael cyflwyno’r cyd-gynhyrchiad yma. Meddai Kate Wasserberg, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd:

“Mae’n gyffrous iawn croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Wrecsam a chael bod yn rhan o’r cyfan drwy ein cyd-gynhyrchiad efo Theatr Cymru, Wrecslam! – prosiect sydd wedi’i wreiddio yn ein cymuned a’n diwylliant. Rydyn ni’n arbennig o falch o weld cast ac awduron mor dalentog — a llawer ohonyn nhw’n dod o’r gogledd-ddwyrain — yn dod ynghyd er mwyn dod â'r dramâu newydd yma’n fyw. Mae cefnogi artistiaid Cymru ym mhob cam o’u gyrfaoedd yn ganolog i’n cenhadaeth ni, ac mae’r bartneriaeth yma’n enghraifft rymus o’r hyn sy’n gallu digwydd pan fydd theatrau’n dod at ei gilydd i wasanaethu ac ysbrydoli’r gymuned rydyn ni’n rhan ohoni.”

Dewch i weld Wrecslam! yng Nghaffi Maes B am 6pm rhwng 4 a 7 Awst 2025 (o nos Lun tan nos Iau). Mynediad am ddim gyda thocyn i'r Maes.