05/12/2025

Taith newydd i Huw Fyw gan Tudur Owen, yn dilyn galw mawr

production image from huw fyw of a man sitting in an armchair

Ry'n ni'n falch iawn o gynnig cyfle newydd i gynulleidfaoedd ledled Cymru fwynhau Huw Fyw – drama lwyfan hynod boblogaidd Tudur Owen – wrth i’r cynhyrchiad deithio Cymru unwaith eto yn 2026. Bydd Tudur ei hun yn dychwelyd i’r cast ar gyfer y daith newydd hon fel cymeriad y teitl, Huw.

Wedi’i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly, cafwyd ymateb gwefreiddiol gan gynulleidfaoedd ledled Cymru yn ystod taith Huw Fyw yn 2025, gyda theatrau dan eu sang ym mhob perfformiad (★★★★ "the perfect balance of sweet, serious and funny" Buzz Magazine).

Mae Tudur Owen yn edrych ymlaen at gael cyfle i ddychwelyd at ei ddrama lwyfan gyntaf:

“Roedd y profiad o berfformio Huw Fyw gyda Theatr Cymru yn un o uchafbwyntiau fy mywyd, a dwi mor hapus fy mod am gael ei wneud o eto – fedrai wir ddim aros! Roedd ymateb cynulleidfaoedd ym mhob rhan o Gymru wir yn rhyfeddol, felly'r gobaith ydi y bydd y cynhyrchiad yma yn cyrraedd hyd yn oed fwy o bobol wrth i ni fentro ar daith unwaith eto. Os gai hanner y wefr y profais i yn ystod y daith ddiwethaf, mi fydd hon yn gynhyrchiad arall i'w thrysori am byth.”

Wedi’i lwyfannu’n wreiddiol i nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, stori wir (wel, gwir-ish) am hen filwr blin yw Huw Fyw. Ar ôl tro annisgwyl yn ei fywyd llwm, mae Huw yn mentro ar antur fythgofiadwy o’i bentra’ bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw. Mae’r ddrama yn cynnwys direidi a ffraethineb nodweddiadol Tudur – ond mae hefyd yn herio stereoteipiau hen bobl yng nghymdeithas, ac yn ymdrin ag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) a’r euogrwydd o oroesi trychineb rhyfel.

Bydd y daith newydd hon yn dod â'r cynhyrchiad hwn i gynulleidfaoedd newydd ac mae Steffan Donnelly – Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru – wrth ei fodd yn cael dod â’r cynhyrchiad cofiadwy hwn yn ôl yn 2026:  

“Roedd Huw Fyw yn llwyddiant ysgubol i Theatr Cymru o ran ymateb a gwerthiant a galla i ddim aros i’w fynd yn ôl allan ar daith. Atseiniodd y cynhyrchiad yn ddwfn gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru y tro cyntaf ac mae’n fraint arbennig i’w deithio eto i theatrau Cymru a chroesawu cynulleidfaoedd yn ôl i stori dyner Huw, yn ogystal â chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae gweithio gyda Tudur eto wedi bod yn bleser pur — mae ei lais, ei haelioni a’i reddf am stori dda yn bywiogi’r broses greadigol a dwi’n edrych ymlaen i fod yn ôl yn yr ystafell ymarfer efo fo (a gweddill y cast, fydd yn cael ei gyhoeddi’n fuan) yn y flwyddyn newydd.”

Bydd capsiynau caeedig yn y Gymraeg a Saesneg ar gael ym mhob perfformiad trwy Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Cymru. Bydd sain ddisgrifiad trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ar bob perfformiad yn Galeri, Caernarfon, Theatr y Sherman, Caerdydd, a Pontio, Bangor – a bydd teithiau cyffwrdd ar gael cyn y sioeau hynny hefyd, er mwyn rhoi cyfle i fynychwyr dall a’r rheiny sydd ag amhariad ar y golwg allu archwilio’r set, props a gwisgoedd. Bydd perfformiad wedi’i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) gyda Cathryn McShane yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd ar 17 Ebrill 2026 a Pontio, Bangor, ar 2 Mai 2026.

Bydd Huw Fyw ar daith o 15 Ebrill 2026 ymlaen - mae'r dyddiadau llawn i'w gweld trwy'r ddolen isod.