Ar drothwy'r ail daith o ddrama lwyfan gyntaf Tudur Owen, Huw Fyw, mae sgript y ddrama yn cael ei chyhoeddi gan Gwasg Carreg Gwalch.
Cafodd Huw Fyw ei gyhoeddi ar 10 Ebrill 2026, ac yn ogystal â’r sgript lwyfan lawn, mae’r gyfrol yn cynnwys:
- Rhagair gan Tudur Owen
- Cyflwyniad gan Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru
- Geirfa er mwyn cefnogi siaradwyr newydd i drafod y ddrama
- Taflenni addysgol i athrawon a darlithwyr allu astudio’r testun gyda myfyrwyr TGAU, Lefel A a cholegau
Mae’r theatr yn ei hanfod yn gyfrwng i’w werthfawrogi’n fyw, ac ar lafar, ond roedd Tudur Owen yn awyddus i’w sgript fod ar gof a chadw ar ddu a gwyn. "Dechreuodd siwrnai Huw Fyw ar y dudalen," eglura, "a doeddwn i ddim am i’w daith ddod i ben. Dyma gyfle felly i roi ail fywyd i’r stori fel gwaith sy’n gallu sefyll ar ei ben ei hun."
Ond pwy ydi Huw Fyw? "Yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn 2022 yr ymddangosodd o am y tro cyntaf," eglura Tudur, "yn fy sioe gomedi stand-yp ALIVE HUW. Egin y syniad ar gyfer y cymeriad oedd cyngor glywais i gan hen filwr: “Paid byth â trio dy ora. Cofia hynny – ella neith o safio dy fywyd di.” Roedd o’n gwbl grediniol ei fod wedi goroesi’r Ail Ryfel Byd drwy lynu wrth y darn hwn o ddoethineb. Wn i ddim i sicrwydd ai gwir oedd hynny ai peidio, ond rydw i wedi trysori’r cyngor gwrthryfelgar a direidus hwn ers hynny. Mi ddatblygodd y cymeriad o fanno."
Dywedodd Steffan Donnelly:
“Pan wnes i gyfarfod Tudur Owen yn 2022 a gofyn a oedd o awydd sgwennu i’r theatr, fe ddechreuodd siarad yn frwdfrydig am y cymeriad cymhleth ’ma oedd yn hoelio fy sylw yn syth. Dyna oedd fy nghyflwyniad cyntaf i Huw Fyw – cymeriad sydd erbyn hyn yn teimlo fel cyfaill go iawn. A ninnau ar drothwy taith newydd i’r ddrama hynod boblogaidd yma, dwi’n falch iawn bod y sgript arbennig yma gan Tudur bellach mewn print ac ar gael i’n cynulleidfaoedd brynu a mwynhau adre. Nid yn unig fydd y gyfrol hon yn ymestyn bywyd y cynhyrchiad ond mae hefyd yn cynnig deunydd addysgol gwerthfawr i archwilio, dadansoddi ac ail-fyw’r ddrama ymhell ar ôl i’r daith theatrig ddod i ben.”
Ers y perfformiad cyntaf o’r ddrama ym Mai 2025, mae Huw Fyw wedi bachu sylw cynulleidfaoedd ledled Cymru. Nawr, mae modd i bawb fynd â Huw adref efo nhw.
Bydd y gyfrol ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar Ffolio.cymru ac ar wefan Gwasg Carreg Gwalch o 10 Ebrill 2026. Bydd copïau hefyd ar werth gan gwerthwyr llyfrau lleol mewn rhai o'r canolfannau ar hyd y daith theatrau, sy'n dechrau ar 15 Ebrill 2026.