14/05/2025

Romeo a Juliet: Steffan Cennydd ac Annes Elwy mewn cynhyrchiad dwyieithog sydd ar ei ffordd i Lundain

Romeo and Juliet image

Mae Theatr Cymru yn falch o gyhoeddi cynhyrchiad dwyieithog o Romeo a Juliet gan William Shakespeare sydd ar y gweill, mewn cydweithrediad â Shakespeare’s Globe. Bydd y cynhyrchiad yn agor yn Theatr Sherman, Caerdydd, ar 29 Medi, ac yn teithio i ganolfannau ledled Cymru cyn cael ei berfformio am rediad byr yn Sam Wanamaker Playhouse y Globe yn Llundain. 

Wedi'i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly, mae'r cynhyrchiad yn serennu Steffan Cennydd fel Romeo ac Annes Elwy fel Juliet – dau berfformiwr grymus sy'n dod â'u doniau a'u profiad i rannau'r cwpl trasig sy'n fodlon peryglu popeth yn enw cariad. Wedi'i hyfforddi yn Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall, mae clodrestr theatr ddiweddar Steffan yn cynnwys drama Taylor Mac, Hir, yn Park Theatre – lle serennodd gyferbyn â Felicity Huffman – a drama Stella Feehily, The Lightest Element, yn Theatr Hampstead. Wedi’i henwi gan Variety fel un o 10 Person Prydeinig i Wylio, enillodd Annes y wobr am yr Actores Orau yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2024 am ei gwaith ar Bariau / Bars (S4C) ac mae hefyd wedi ymddangos yn Wolf (BBC) ac Y Golau / The Light in the Hall (S4C/Channel 4) yn ddiweddar. Yn ymuno â nhw bydd cast ensemble cyffrous, sydd i'w gyhoeddi'n fuan iawn.

Mae'r cynhyrchiad arloesol yma’n plethu'r Gymraeg a'r Saesneg ynghyd, gan archwilio hunaniaeth Gymreig a dod â newydd-deb cyfoes i'r stori oesol am gariad a gwrthdaro. Gan ddefnyddio testun gwreiddiol Shakespeare ochr yn ochr â chyfieithiad Cymraeg clodwiw J. T. Jones a gyhoeddwyd yn 1983, bydd y ddeialog yn symud yn rhwydd rhwng ieithoedd, gan amlygu'r farddoniaeth a'r wleidyddiaeth sydd wrth wraidd y ddrama.

Mae'r cyfarwyddwr Steffan Donnelly wedi cynnull tîm creadigol gwych i lwyfannu'r cynhyrchiad uchelgeisiol yma. Bydd y dylunydd Elin Steele, a weithiodd gyda'r cwmni ar Huw Fyw yn ddiweddar, yn arwain ar y set a'r gwisgoedd, gyda Dyfan Jones yn gyfansoddwr a dylunydd sain a Ceri James yn ddylunydd goleuo. 

Ar ôl perfformio sawl tymor yn Shakespeare’s Globe fel actor, mae hyn yn cau’r cylch i Gyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, Steffan Donnelly, wrth iddo ddychwelyd i’r ganolfan gyda’r cynhyrchiad dwyieithog yma:  

“Dw i wrth fy modd wrth feddwl am gael gwneud y fersiwn ddwyieithog yma o un o ddramâu oesol Shakespeare, gan archwilio terfynau iaith a chymdeithas sy’n cael ei gwthio i’r ymylon. Dw i’n llawn cyffro ynghylch cydweithio efo Steffan ac Annes, dau actor rhyfeddol, ynghyd â chast ensemble mawr o berfformwyr talentog o Gymru a thîm creadigol rhagorol.

Fel efo'n holl gynyrchiadau ni, mi fyddwn ni’n teithio ledled Cymru, ond am y tro cyntaf yn hanes Theatr Cymru, mi fydd ein gwaith hefyd yn cael ei weld ar un o brif lwyfannau Llundain.Mae’r Sam Wanamaker Playhouse yn Shakespeare’s Globe yn theatr sydd heb ei thebyg, yn ofod cwbl fyw lle mae amgylchedd agos atoch chi wedi’i grefftio’n berffaith, sy’n ddelfrydol ar gyfer y ddrama yma. Mae’n gymaint o fraint cael cydweithio efo tîm croesawgar ac angerddol y Globe a dw i’n edrych ymlaen at weld cynulleidfaoedd ledled Cymru a Llundain yn cael profi ein fersiwn newydd ni o Romeo a Juliet.”
  
Romeo a Juliet yw'r cynhyrchiad Cymraeg cyntaf i gael ei lwyfannu yn Shakespeare's Globe. Meddai Michelle Terry, Cyfarwyddwr Artistig Shakespeare’s Globe:  

“Ni allwn fod yn fwy balch na chyffrous i groesawu Steffan a’i gwmni eithriadol i The Globe, a'r rhu’n mor falch a chyffrous mai gyda’r cynhyrchiad arloesol o ran ffurf a chynnwys yma y mae’n gofyn i ni ddod at ei gilydd. A hynny oherwydd ein gwahaniaethau nid er gwaethaf nhw. Mae’n anrhydedd hefyd fod Steffan wedi dewis The Globe fel y theatr fawr gyntaf erioed i Theatr Cymru rannu eu gwaith pwysig gydag yn Llundain”. 

Bydd capsiynau dwyieithog ar gael drwy gydol taith Cymru, yn ogystal â pherfformiad Iaith Arwyddion Prydain gyda'r dehonglydd Cathryn McShane yn Theatr Sherman Caerdydd ar 1 Hydref. 

Bydd Romeo a Juliet yn teithio Cymru o 29 Medi 2025 ymlaen. Cyhoeddir dyddiadau'r rhediad yn Llundain yn fuan.