Mae Theatr Cymru – mewn cydweithrediad â Shakespeare’s Globe – yn falch o gyhoeddi’r cast ensemble ar gyfer cynhyrchiad sydd ar y gweill, sef cynhyrchiad dwyieithog o Romeo a Juliet William Shakespeare, ail-ddychmygiad o’r drasiedi oesol fydd yn pontio diwylliannau a ieithoedd mewn profiad theatrig newydd beiddgar.
Bydd yr addasiad arloesol yma, o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, yn cael ei berfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan blethu Saesneg gwreiddiol Shakespeare â chyfieithiad Cymraeg clodwiw J. T. Jones i adlewyrchu dau fyd y Montagiws a'r Capiwlets. Gan gynnig archwiliad pwerus o wrthdaro, cysylltiad a hunaniaeth Gymreig, bydd y cynhyrchiad cyffrous yma’n agor yn Theatr Sherman yng Nghaerdydd ac wedyn yn teithio i ganolfannau ar draws Cymru, cyn treulio wythnos hanesyddol fel y perfformiadau Cymraeg cyntaf yn y Sam Wanamaker Playhouse yn Llundain.
Mae'r cast yn cynnwys ensemble deinamig o berfformwyr sy'n dod i'r amlwg a rhai sydd wedi hen ennill eu plwyf. Ochr yn ochr â Romeo Steffan Cennydd, bydd rhan Juliet nawr yn cael ei phortreadu gan Isabella Colby Browne, fydd yn camu i'r rhan gydag egni ac angerdd*. Bydd Owain Gwynn yn dod â chraffter ffraeth i ran Mercutio, tra bydd Scott Gutteridge yn portreadu Tybalt ffyrnig ac awdurdodus. Mae'r cast hefyd yn cynnwys Dom James fel Benvolio, Llinor ap Gwynedd fel Nyrs Juliet, Eiry Thomas fel Ffrier Lorens, Imad Eldeen fel Paris, Gabin Kongolo fel y Tywysog, a Jonathan Nefydd a Michelle McTernan fel yr Arglwydd a'r Arglwyddes Capiwlet. Mae bywgraffiadau llawn y cast ar gael isod.
Ochr yn ochr ag Elin Steele (Dylunydd Set a Gwisgoedd), Dyfan Jones (Cyfansoddwr, Cyfarwyddwr Cerdd a Dylunydd Sain) a Ceri James (Dylunydd Goleuo) oedd wedi’u cyhoeddi yn barod, bydd y tîm creadigol yn cynnwys Catherine Alexander fel Cyfarwyddwr Symud, Nia Lynn fel Cyfarwyddwr Llais a Ruth Cooper-Brown fel Cyfarwyddwr Ymladd a Chydlynydd Agosatrwydd.
Mae'r cyfarwyddwr Steffan Donnelly – sydd wedi cael ei benodi'n Artist Cyswllt yn Shakespeare's Globe yn ddiweddar – wrth ei fodd yn cael gweithio gyda'r cast a'r tîm creadigol anhygoel yma:
“Allwn i ddim bod yn falchach o’r cast anhygoel o dalentog rydyn ni wedi’i roi at ei gilydd ar gyfer Romeo a Juliet. Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos rhai o’r perfformwyr gorau sydd ganddon ni yng Nghymru ar hyn o bryd, o bob rhan o'r wlad. Mae Steffan ac Isabella yn wych efo'i gilydd, ac yn dod â chynhesrwydd a diffuantrwydd i'r cariadon anffodus. Dw i'n edrych ymlaen at gael mynd i mewn i'r ystafell ymarfer o ystyried yr angerdd, y profiad a'r doniau y bydd yr ensemble eithriadol yma’n eu cynnig i'n fersiwn ddwyieithog ni o Romeo a Juliet.”
Bydd capsiynau dwyieithog agored ar gael drwy gydol y daith o gwmpas Cymru, yn ogystal â pherfformiad Iaith Arwyddion Prydain gyda'r dehonglydd Cathryn McShane yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ar 1 Hydref 2025 a Disgrifiadau Sain Cymraeg gydag Eilir Gwyn ym mhob perfformiad yn Theatr y Sherman, Caerdydd.
Bydd capsiynau caeedig ar gael yn y perfformiadau yn y Sam Wanamaker Playhouse drwy Sibrwd, sef ap mynediad at yr iaith Theatr Cymru.
*Mae Annes Elwy, gafodd ei chyhoeddi’n flaenorol yn rhan Juliet, wedi gorfod camu'n ôl oherwydd gwrthdaro annisgwyl yn ei hamserlen.
-
Isabella Colby Browne
-
Steffan Cennydd
-
Imad Eldeen
-
Scott Gutteridge
-
Llinor ap Gwynedd
-
Owain Gwynn
-
Dom James
-
Gabin Kongolo
-
Michelle McTernan
-
Jonathan Nefydd
-
Eiry Thomas