Wrth i dîm Theatr Cymru baratoi at gynhyrchiad Romeo a Juliet yn yr hydref, mae cannoedd o bobl ifanc ledled Cymru wedi bod wrthi’n hel syniadau i greu ffilm fer, fydd yn cael ei rhannu i godi’r llen ar bob perfformiad ar hyd y daith.
Dan arweiniad creadigol ein Cydlynydd Cyfranogi Sian Elin James a’r artistiaid Nia Morais a Connor Allen, mae disgyblion mewn 6 ysgol uwchradd wedi mwynhau’r cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai creadigol sy’n archwilio beth mae Cymru yn ei golygu i bobl ifanc heddiw. Yr ysgolion yw: Ysgol Glan Clwyd (Llanelwy), Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (Caerdydd), Bishop of Llandaf (Caerdydd), Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig (Aberystwyth), Ysgol Penglais (Aberystwyth) ac Ysgol St Michael (Llanelli).
Bwriad y prosiect yw archwilio’r berthynas rhwng pobl ifanc a Chymru drwy ganolbwyntio ar eu profiadau, eu hunaniaeth, a’u cysylltiad nhw gyda’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig. Mae’r gweithdai yn ofod lle gallent fynegi eu barn am eu hunaniaeth Gymreig mewn modd creadigol, waeth beth fo’u gallu yn y Gymraeg.
Bydd Connor a Nia yn mynd ati i ddefnyddio syniadau o’r gweithdai er mwyn llunio cerdd ddwyieithog fydd yn cael ei droi yn ffilm fer. Bydd y bobl ifanc o’r gweithdai yn ymddangos yn y ffilm – sy’n cael ei chreu gan Dafydd Hughes o gwmni Amcan – a bydd y gwaith gorffenedig yn cael ei rannu gyda chynulleidfaoedd yn ystod pob perfformiad o Romeo a Juliet yn yr hydref.
Mae Sian Elin, ein Cydlynydd Cyfranogi yn gyffrous iawn i weithio ar y prosiect yma:
“Dylai theatr fod yn agored, yn gynhwysol ac yn fyw i’r gymuned gyfan, ac mae'r prosiect yma'n dyst i hynny. Trwy uno creadigrwydd, cymunedau a phrofiadau gwahanol, ry’n ni wedi creu cyfleoedd i bobl ifanc ar draws Cymru ymgysylltu â’r stori glasurol hon a meithrin hyder, dychymyg, ac ymdeimlad o berthyn. Mae wedi bod yn brofiad gwych cydlynu’r prosiect yma a gweithio ochr yn ochr â'r beirdd anhygoel Nia Morais a Connor Allen. Ar y cyd â’r cyfranogwyr, mae eu lleisiau’n dod â bywyd ac egni newydd a heintus i fyd Romeo a Juliet. Dw i methu aros i weld y gerdd ar ffurf ffilm fer yn cael ei arddangos cyn bob sioe ar draws theatrau Cymru a hefyd yn Shakespeare’s Globe yn Llundain fel penllanw i waith arbennig y bobl ifanc”.
Mae Nia Morais wedi sylwi sut mae themâu Shakespeare dal yn berthnasol i bobl ifanc heddiw:
"Roedd hi'n fraint i ymweld ag Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Glantaf ac Ysgol Penweddig fel rhan o'r prosiect yma, a chael trafod sut mae themâu Shakespeare yn dal i gydio heddiw. Mae pobl ifanc dan bwysau aruthrol i lwyddo mewn byd sy'n edrych yn fwy ansefydlog bob dydd, ac mae'r celfyddydau'n ffordd wych o'n atgoffa ni bod cariad a gobaith i'w cael ym mhobman."
Mae Connor Allen wedi bod wrth ei fodd yn clywed safbwyntiau newydd gan y bobl ifanc:
"Mae bod yn rhan o'r prosiect hwn wedi bod yn agoriad llygaid i mi, gan fy mod i wedi cwrdd ac ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru ac wedi dechrau deall sut maen nhw'n gweld nid yn unig eu cymunedau lleol, ond y byd a nhw eu hunain ynddo. Er mwyn deall y byd heddiw yn llawn, edrychwch arno trwy lygaid person ifanc - ac mae'r prosiect hwn wedi rhoi'r anrhydedd honno i mi."
Mae canmoliaeth fawr wedi bod gan yr ysgolion. Dywedodd Tomos Wyn, athro Ysgol Glan Clwyd:
“Roedd y dysgwyr wrth eu boddau yn y gweithdy, gyda sgwrs a thrafodaeth tanllyd ymhob man. Maent yn edrych ymlaen yn eiddgar at ffilmio'r darn terfynol, ac hyd yn oed mwy cyffrous i ymddangos mewn theatrau ar draws Cymru”.
Diolch o galon i’r holl ddisgyblion ac athrawon sydd wedi croesawu’r criw i’w hysgolion – a diolch enfawr i Sian Elin, Nia a Connor am gynnal gweithdai diddorol a rhyngweithiol er mwyn rhannu straeon ac archwilio hunaniaeth Gymreig mewn modd cyfoes a chynhwysol. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld ffrwyth llafur y prosiect!
Bydd Romeo a Juliet yn cychwyn ar daith genedlaethol ledled Cymru ar 29 Medi nes 23 Hydref cyn mynd i’r Sam Wanamaker Playhouse yn Llundain rhwng 5-8 Dachwedd. Dyma’r tro gyntaf erioed i ddrama Gymraeg ymddangos ar y llwyfan yna.