Yn dilyn ei lwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd 2022 fel enillydd y Fedal Ddrama, fe gawsom ni’r pleser o groesawu Osian Davies fel ein Dramodydd Preswyl Ifanc eleni.
Yn wreiddiol o Lanfairpwll ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, mae Osian yn gweithio fel Cyfieithydd dydd i ddydd. Mae’n mwynhau ysgrifennu yn ei amser sbâr pan gai'r cyfle. Dyma ei ymgais cyntaf ar ysgrifennu sgript, a’r tro cyntaf iddo gyflwyno darn o waith ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ddrama.
Mae’r ddrama fuddugol yn ymdrin ag iechyd meddwl dynion ac mae’n digwydd dros un olygfa. Dau ffrind yn eu harddegau yn cael sgwrs dros beint yw cymeriadau drama Osian.
Ef yw’r ail Ddramodydd Preswyl Ifanc erioed i gamu i mewn i’r rôl o fewn y cwmni, ar ôl Rhiannon Williams a gamodd i mewn i’r rôl ym mis Mai 2021.
Mae ‘chydig fisoedd wedi pasio bellach ers iddo ddechrau yn ei rôl, felly aethom ni i ddal i fyny gydag Osian dros goffi i drafod y ddrama, ei rôl, a’r hyn mae’n gobeithio ei gael allan o’r profiad. Ry’n ni hefyd wedi bod yn lwcus i glywed gan gyn-Ddramodydd Preswyl Ifanc Theatr Gen, Rhiannon Williams, fu’n trafod yr effaith gadarnhaol gafodd y cyfle arni. Gwyliwch y fideo llawn isod!