Yn ogystal â’r ddau gynhyrchiad hwn, bydd cyfle i fynychwyr yr Eisteddfod weld Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Steffan Donnelly, mewn sgyrsiau ar hyd a lled y Maes.
Sgwrs gyda Siân Phillips
Y Babell Lên, 10 Awst 11.30am
Bydd Steffan Donnelly yn holi’r eicon Siân Phillips am ei bywyd, ei gyrfa, a’i phrofiad o gystadlu ac adrodd yn blentyn. Bydd Siân yn trafod ei pherthynas gyda gwaith Saunders Lewis, effaith yr Eisteddfod a diwylliant Cymraeg ar ei gyrfa, a’i phrofiad fel actores byd-enwog.
Paned o Gê: Paned gyda Steffan Donnelly a Lowri Morgan
Stondin Paned o Gê, 7 Awst 1pm
Ymunwch â Steffan a Lowri i glywed mwy am gynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Brên. Calon. Fi. Bydd Lowri yn serennu yn y fonolog ddoniol a thyner yma gan Bethan Marlow, sy'n llawn cariad, tor-calon, a chwant lesbiaid.
Cyfieithu creadigol: Llenyddiaeth Gymraeg yn croesi ffiniau
Cymdeithasau 1, 5 Awst 2pm
Bydd Steffan hefyd yn ymuno â Gruffudd Owen a Megan Angharad Hunter mewn trafodaeth am werth cyfieithu llenyddiaeth i'r awdur ac i'r diwydiannau creadigol. Wedi’i gadeirio gan Elin Haf Gruffydd Jones ar ran Cyfnewidfa Lên Cymru, bydd y cyfranwyr yn trafod eu gwaith a rôl cyfieithu mewn perthynas â chyrraedd cynulleidfaoedd ar draws y byd.