Heddiw, ry’n ni’n falch o gyhoeddi rhai o’r ysgogwyr gwadd fydd yn cymryd rhan yn ein cyfnod preswyl Gwreiddioli fel rhan o Brosiect 40°C, ein prosiect hirdymor ac uchelgeisiol sy’n mynd i‘r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Bydd Eddie Ladd, Marva Jackson Lord a Becca Voelcker yn arwain sesiynau gyda’r artistiaid preswyl yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen ym mis Awst eleni - ac mae mwy o siaradwyr i'w cyhoeddi cyn hir. Gyda phob un yn dod ag arbenigeddau a safbwyntiau gwahanol, bydd y siaradwyr gwadd yma yn trafod eu gwaith a sbarduno’r artistiaid i ystyried safbwyntiau amrywiol ar groestoriadau’r argyfwng hinsawdd gyda phob dim arall sy’n diffinio bywyd heddiw.
Dan arweiniad yr artist arweiniol Dylan Huw a chyda chefnogaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae cyfnod preswyl Gwreiddioli yn cynnig cyfle trawsnewidiol i 5 artist fod yn uchelgeisiol am bosibiliadau eu gwaith, i wthio ffiniau theatr ac i herio rhagdybieithau cyffredin am yr argyfwng hinsawdd. Os hoffech fynegi diddordeb, cewch ragor o wybodaeth fan hyn – mae’r dyddiad cau yn prysur agosau, sef 12pm ar 5 Mehefin.
Dyma ragor o wybodaeth am ein gwestai gwych:
Mae Eddie Ladd yn berfformiwr theatr gorfforol sy’n llunio darnau ar gyfer safleoedd arbennig a theatrau cyffredin a’u dwyn ar daith ledled y byd. Yn ystod Clo Mawr 2020 cyflwynodd ddarn ffurf-arlein newydd am ei ffarm a’i hardal, Fy Ynys Las, a chael y pleser o gydweithio â phobl Llandysul i greu sinema fychan ar safle arbennig y flwyddyn wedyn, cywaith sy’n parhau fis Medi eleni. Mae’n un o dri aelod cwmni dawns Light/Ladd/Emberton ac mae gwaith diweddaraf y cwmni, ffilm o’r enw Amser|Time, yn ymwneud â’r argyfwng hinsawdd. Nid yw’n gofyn bywyd moethus.
Artist Jamaicaidd-Canadaidd yw Marva Jackson Lord sy’n byw ym Mannau Brycheiniog. Mae hi’n awdur ac yn greawdwr digidol sy’n gweithio ym maes barddoniaeth, sain, a’r cyfryngau digidol yn archwilio tirwedd a naratifau rhyfeddol. Mae ei gwaith wedi’i wreiddio yn ei phrofiad helaeth ym myd radio cymunedol, sy'n cynnig collage sain gyda cherddoriaeth, sain archif ac wedi’i ganfod, barddoniaeth a chwedleua. Mae ei gwaith gweledol Ecosystem a Meditation on Multilingualism, yn adlewyrchu llais, iaith a’r gwirioneddau o fod yn fenyw Ddu yn byw yng nghefn gwlad Cymru. Wedi’i gomisiynu gan Peak a Pegwn, mae’r gweithiau yma yn amlinellu hanesion cysylltiedig a gwaddol trefedigaethol, archwiliad hirdymor o iaith, cof emosiynol a chysylltiad personol dwfn gyda’r tir.
Mae Becca Voelcker yn hanesydd ffilm a beirniad diwylliannol sy'n ysgrifennu ar ffilm, celf a diwylliant gweledol, yn enwedig mewn perthynas â gwleidyddiaeth ac ecoleg. Enillodd ei PhD ym Mhrifysgol Harvard yn 2021, gan ysgrifennu hanes byd-eang o ffilm eco-wleidyddol. Mae hi wedi byw a gweithio yng Nghymru, Lloegr, UDA a Japan. Mae Becca yn cyfrannu at BBC Radio 3 Free Thinking, Film Comment Podcast a mould.earth. Mae ei hysgrifennu wedi ymddangos yn Screen, MIRAJ, Sight & Sound, Frieze, Film Comment, ac Art Asia Pacific.
Dywedodd artist arweiniol a churadur y cyfnod preswyl, Dylan Huw:
“Mae pob un o'r ysgogwyr bydd yn ymuno â ni yn CAT yn dod â phrofiad helaeth o archwilio croestoriadau rhwng anferthedd yr argyfyngau hinsawdd a natur, bywyd bob dydd yng Nghymru heddiw, a photensial y celfyddydau i agor meddyliau a chreu newid. Maen nhw'n cwmpasu pob math o feysydd, arbenigeddau a chefndiroedd, a dwi methu aros i barhau i sgwrsio gyda nhw dros yr haf i baratoi sesiynau bydd yn ysbrydoli ac ysgogi artistiaid Gwreiddioli.”