Drama bodlediad yw Tremolo wedi’i chynhyrchu gan Theatr Illumine mewn partneriaeth â Pharc Geneteg Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Geneteg. Wedi’i hysgrifennu gan y dramodydd Lisa Parry o Gaerdydd, sydd hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr Theatr Illumine. Mae’r podlediad pwerus hwn yn rhoi mewnwelediad clir i’r cwestiwn a ddylid cael profion geneteg ai peidio, a sut mae un teulu’n ymdopi â’r diagnosis allai fod yn cuddio yn eu genynnau.
Meddai Lisa Parry; “Mae teuluoedd ledled ein cymunedau’n gorfod gwneud penderfyniadau tebyg i’r rhai mae ‘Harri’, sef prif gymeriad y ddrama (sydd yn ei arddegau), a’i deulu, yn gorfod eu gwneud ond anaml iawn rydyn ni’n clywed amdanyn nhw. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd Tremolo yn helpu teuluoedd sy’n ystyried opsiynau profion geneteg, ac yn gwneud y broses o ddeall y dewisiadau hyn yn fwy hygyrch i’r cyhoedd yn gyffredinol.”
Roedd y fformat podlediad yn apelio at Lisa oherwydd ei fod yn golygu y gallai cynulleidfaoedd ifanc gael profiad o Tremolo mewn ffordd agos atoch, uniongyrchol. Gydag un actor yn cyflwyno’r stori, mae hi’n gobeithio y bydd yn brofiad pwerus i’r gwrandawyr:
“Roedd agosatrwydd fformat y podlediad yn apelio’n fawr ataf i – mae’r ddrama’n glanio yn ymennydd y gwrandäwr fel y gallant roi eu delweddau eu hunain i’r yr hyn sy’n digwydd. Mae’r gerddoriaeth yn gwbl ganolog i’r ddrama, ac mae’r ffaith bod y podlediad yn cael ei drosglwyddo drwy wasanaethau ffrydio poblogaidd hefyd yn apelio’n fawr ataf. Ro’n i’n awyddus i freuder Harri ddod drwyddo, a gyda’r fformat hwn mae’n siarad un-wrth-un gyda’r gwrandawyr, fel petai.”

Wedi ei anelu’n bennaf at gynulleidfaoedd ifanc 16+ oed, ond ar gael i bawb, cyflwynir Tremolo drwy lygaid Harri, bachgen gofalgar yn ei arddegau. Fel llawer o bobl ifanc sydd newydd gwblhau eu harholiadau Lefel A, mae Harri’n edrych ymlaen yn llawn cyffro at y dyfodol: teithio drwy Ewrop ar y trên gyda’i ffrind, yna mynd i’r Brifysgol i ddilyn ei freuddwyd o fod yn llawfeddyg ym maes niwroleg. Ond, ar amrantiad, mae ei fyd yn troi ben i waered pan gaiff ei fam ddiagnosis o eFAD – Clefyd Alzheimer Teuluol sy’n dechrau’n gynnar. O ran geneteg, mae siawns 50% y bydd ef a Gwenllian, ei chwaer iau, hefyd yn dioddef o’r cyflwr yn y dyfodol.
“Gyda geneteg, a bellach genomeg, yn dod yn fwyfwy pwysig ym maes meddygaeth ac iechyd, mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn y cyd-destun hwn yn allweddol. Mae tîm ymgysylltu Parc Geneteg Cymru yn falch iawn o weithio gyda’r partneriaid creadigol ar y prosiect cyffrous hwn i amlygu pwnc mor bwysig.” Rhian Morgan, Parc Geneteg Cymru.
Wrth i’r ddrama ddatblygu, dysgwn am arwyddion cynnar y cyflwr. Drwy lygaid Harri cawn wybod hefyd am effaith y cyflwr creulon hwn ar berthynasoedd teuluol, pwysau ariannol, bywyd bob dydd, a gobeithio am y dyfodol.
Mae gwyddoniaeth a meddygaeth yn faes newydd i waith Theatr Genedlaethol Cymru, ond mae’r cwmni wedi cael boddhad mawr o weithio ar y prosiect, tra’n archwilio’r defnydd o bodlediadau i gyflwyno theatr i gynulleidfaoedd newydd, ifanc:
“Mae cynnig cynnwys creadigol perthnasol ar wahanol blatfformaun allweddol i’r Theatr Gen wrth inni symud ymlaen. Rydym yn awyddus i ddatblygu ein cynnig fel ei fod yn cynnwys nid yn unig theatr byw, ond hefyd gweithiau sydd â chyrhaeddiad ehangach ac sydd â gwaddol hirach trwy wneud defnydd o blatfformau digidol. Yn ogystal, mae Tremolo yn stori apelgar. Gyda’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae’n gyfle gwych i’r celfyddydau mynegianol gysylltu â gwyddoniaeth a thechnoleg, a gall athrawon fanteisio ar adnodd addysgol pwrpasol, dwyieithog a rhad ac am ddim, a grëwyd gan y Theatr Gen a Pharc Geneteg Cymru i gefnogi’r ddrama bodlediad hon yn yr ystafell ddosbarth.” Rhian Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru.
Yr actor Gareth Elis sy’n chwarae rhan Harri; mae’n hanu’n wreiddiol o Gaerfyrddin, a hyfforddwyd ef yn y Guildford School of Acting. Mae wedi ymddangos ar y llwyfan mewn cynyrchiadau gan Theatr Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Cameron Mackintosh, Arad Goch a Chynyrchiadau Leeway. Mae ei waith teledu’n cynnwys In My Skin (BBC Three/BBC Cymru), Mabinogi-Ogi (S4C) a The Light in the Hall/Y Golau (Channel 4/S4C). Tremolo yw drama bodlediad gyntaf Gareth, ac ef yw’r unig actor yn y cynhyrchiad:
“Rwy wedi bod wrth fy modd yn cael camu i fyd Harri, ac wedi dysgu llawer o’r profiad. Ry’n ni’n tueddu i beidio â meddwl am gyflyrau difrifol fel Clefyd Alzheimer Teuluol sy’n dechrau’n gynnar, a sut maen nhw’n effeithio ar deuluoedd, hyd nes i ni gael y profiad ein hunain. Rwy’n gobeithio y bydd clywed sgript ddirdynnol Lisa Parry drwy lais Harri yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr, yn annog trafodaethau ymhlith pobl ifanc, ac yn ein hatgoffa beth sy’n wirioneddol bwysig yn ein bywydau prysur.”
Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan annatod o’r cynhyrchiad hwn o’r cychwyn cyntaf. Mae Gwenllian, chwaer iau Harri, wrth ei bodd yn canu’r delyn, ac yn treulio oriau lawer yn ymarfer y ’tremolo’. Wrth i’r ddrama ddatblygu, felly hefyd yr emosiynau. Mae’r Cyfarwyddwr Zoë Waterman, sy’n Gyd-gyfarwyddwr Theatr Illumine, yn esbonio sut y defnyddiwyd y cyfuniad o gerddoriaeth y delyn – wedi ei gyfansoddi a’i pherfformio gan y delynores ryngwladol o Gymru, Eira Lynn Jones – i ddod â’r stori a’r emosiynau’n fyw yn y cynhyrchiad pwerus hwn:
“Yn Tremolo, Harri sy’n ein tywys drwy’r stori; drwy gyfrwng llais yr actor gwych Gareth Elis rydym i mewn yn ei ben wrth iddo ymgodymu â’r newyddion annisgwyl ac arswydus am ddiagnosis ei fam, a beth y gallai hynny ei olygu o ran ei ddyfodol ei hun. Fodd bynnag, mae ganddo chwaer, Gwenllian, sy’n iau nag ef ac sydd hefyd yn mynd drwy’r un profiad helbulus. Mae Lisa wedi ei phortreadu hi’n wych fel cerddor – yn canu’r delyn ac yn cael dihangfa drwy dannau ei hofferyn. Wrth wneud hyn, gadawodd Lisa i Eira Lynn Jones adrodd stori Gwenllian drwy gyfrwng y gerddoriaeth y mae hi’n ei chwarae, ei pherthynas â’r deunydd hwnnw, a’i chysylltiad â’r delyn – mae’n rhoi gwead hyfryd i’r ddrama, ac yn cyflwyno straeon y brawd a’r chwaer ochr-yn-ochr, gan atseinio oddi ar ei gilydd yn union fel y tremolo yn y teitl.” Zoë Waterman.
Recordiwyd Tremolo yn yr Hoot Studios a’r golygydd oedd Rhys Young. Caiff y podlediad ei ryddhau 3 Mawrth, a bydd ar gael i wrando arno a’i lawrlwytho drwy blatfformau yn cynnwys Spotify, I Tunes, AM yn ogystal ag ar Casgliad Dysgu, sef adnodd addysgol Theatr Gen sydd ar gael ar wefan y cwmni. Cyfieithwyd y gwaith i’r Gymraeg gan y Dramatwrg a’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Branwen Davies, a bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael i sicrhau bod ystod eang o wrandawyr yn gallu mwynhau’r cynhyrchiad pwerus a phwysig hwn.